Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3) o'r Ddeddf i'r graddau y gall is-adran 3 fod yn gymwys i Gymru;
ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;
ystyr “bwyd babanod” (“baby foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin, ond nad ydynt yn cynnwys bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn;
ystyr “bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn” (“processed cereal-based foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol o fewn y categorïau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin;
ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd4 a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol5 a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “gweddill plaleiddiad” (“pesticide residue”) yw'r gweddill mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn neu mewn bwydydd babanod a hwnnw'n weddill cynnyrch amddiffyn planhigion fel y diffinnir “plant protection product” ym mhwynt 1 o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC6 ynglŷn â gosod cynhyrchion amddiffyn planhigion ar y farchnad, gan gynnwys ei fetabolion a chynhyrchion sy'n deillio o'r cynnyrch hwnnw wrth iddo ddiraddio neu adweithio;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu i werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu i'w werthu;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb AEE;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC7) ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1998/36/EC8, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC9) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC10; ac
ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed.
2
Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a'r ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb.
3
Os yw unrhyw Atodlen yn cynnwys unrhyw nodyn, rhaid i ddarpariaethau'r Atodlen honno gael eu dehongli a'u cymhwyso yn unol â'r nodyn hwnnw.
Esemptiad3
Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc.
Cyfyngiadau ar werthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod4
Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod oni bai bod y bwyd hwnnw —
a
yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 5 i 7 o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad; a
b
wedi'i labelu yn unol â rheoliad 8.
Gofynion cyffredinol o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad5
1
Rhaid peidio â gweithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod o unrhyw gyfansoddyn ac eithrio'r rhai y mae eu haddasrwydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod a phlant ifanc wedi'i gadarnhau drwy ddata gwyddonol sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
2
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod neu blant ifanc.
3
Rhaid i gyfansoddiad bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd ag Atodlen 2.
4
Rhaid i gyfansoddiad bwyd babanod gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Atodlen 3.
Sylweddau maethol a maetholion sydd wedi'u hychwanegu6
1
Wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod, rhaid peidio ag ychwanegu unrhyw sylwedd maethol ac eithrio sylwedd maethol a bennir yn Atodlen 4.
2
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 5 ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir gyferbyn â'r maetholyn hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.
3
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod a bennir yng ngholofn 1 o Ran II o Atodlen 5 beidio â chynnwys unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir gyferbyn â'r bwyd hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir yng ngholofn 3 o'r rhan honno.
Gweddillion plaleiddiaid7
1
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys —
a
unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yn Atodlen 6; na
b
unrhyw omethoad, pan yw'n fetabolyn plaleiddiad nas pennir yn Atodlen 6, nac unrhyw gynnyrch sy'n deillio o ddiraddiant neu ymadwaith y metabolyn hwnnw,
ar lefel sy'n uwch na 0.003 mg/kg.
2
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 7 ar lefel uwch na'r lefel a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r plaleiddiad hwnnw.
3
Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o unrhyw blaleiddiad unigol nas pennir yn Atodlen 6 neu golofn 1 Atodlen 7 ar lefel sy'n uwch na 0.01 mg/kg.
4
Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) to (3) yn gymwys i'r bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu'r bwyd babanod —
a
sydd wedi'i weithgynhyrchu fel bwyd sy'n barod i gael ei fwyta, neu
b
os nad yw wedi'i weithgynhyrchu felly, fel y'i hailansoddiwyd yn unol â chyfarwyddiadau'i weithgynhyrchydd.
5
Rhaid i'r dulliau dadansoddi ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau safonedig sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
Labelu8
1
Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 199611, rhaid i fwydydd proses sydd wedi'i seilio ar rawn a bwydydd babanod gael eu labelu â'r manylion canlynol —
a
datganiad ynghylch o ba oedran priodol (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na phedwar mis) y caniateir defnyddio'r bwyd, o ystyried ei gyfansoddiad, ei ansawdd ffisegol neu ei nodweddion penodol eraill;
b
gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb glwten os yw'r oedran sydd wedi'i ddatgan yn unol ag is-baragraff (a) yn llai na chwe mis;
c
gwerth yr ynni sydd ar gael a hwnnw wedi'i fynegi mewn kJ a kcal, a'r cynnwys o ran protein, carbohydradau a braster, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed;
ch
y maint cyfartalog, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed, o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin y mae gofyniad o ran uchafswm neu isafswm ei gyfansoddiad wedi'i bennu yn —
i
Rhan II o Atodlen 1 yn achos bwydydd proses wedi'u seilio ar rawn; a
ii
Atodlen 3 yn achos bwydydd babanod; a
d
os yw'n angenrheidiol paratoi'r bwyd, cyfarwyddiadau priodol ar gyfer ei baratoi a datganiad ynglŷn â phwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(ch), rhaid peidio â labelu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod â maint cyfartalog unrhyw faetholyn a bennir yn Atodlen 4 oni bai —
a
bod y maint cyfartalog yn cael ei fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed; a
b
yn achos sylwedd mwynol neu fitamin, fod hwnnw'n sylwedd mwynol neu'n fitamin ac eithrio'r un y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(ch).
3
Os, yn unol â pharagraff (1)(ch) neu baragraff (2), y mae unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod wedi'i labelu â'r maint cyfartalog, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed, o unrhyw fitamin neu fwyn a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, rhaid i label y bwyd beidio â mynegi'r maint cyfartalog hwnnw fel canran o'r gwerth cyfeiriadol a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â fitamin neu'r mwyn hwnnw oni bai bod y maint sy'n bresennol yn hafal i 15 y cant neu fwy o'r gwerth cyfeiriadol.
Gorfodi9
1
Ac eithrio os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
2
Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.
Tramgwydd a chosb10
Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 4, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad ynglŷn ag allforion11
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi —
a
bod y bwyd, yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
b
yn achos allforio i un o Wladwriaethau'r AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau'r Gyfarwyddeb12.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf12
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
a
adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
b
adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
c
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
ch
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
d
adran 22 (amddiffyn cyhoeddi wrth gynnal busnes);
dd
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
e
adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
f
adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid barnu bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
ff
adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan baragraff (e) uchod;
g
adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan baragraff (f) uchod;
ng
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
h
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Dirymu13
1
2
Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 200115.
Diwygiad14
1
Diwygir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 199016)(i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraff (2).
2
Yn rheoliad 2(7) (gwahardd gwerthu etc fwyd sy'n cynnwys tryptoffan), yn y diffiniadau o “processed cereal-based food” a “baby food” yn lle'r geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997” rhowch y geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199817