Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
24 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Diwygir Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn —
(a)yn rheoliad 2(2)(a)(ii), ar y diwedd yn lle “a” rhodder “neu”;
(b)yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 4 mewnosoder ar y dechrau —
“yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2”;
(c)yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(ch)yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
(d)yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
Rheoliad 2
1. Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:
Y Swyddogaeth | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
67. Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu. | Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
2. Yn Rhan I:
(1) dileer paragraffau 18, 19; a
(2) mewnosoder ar ôl paragraff 17:
Swyddogaethau | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
18. Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur. | Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
19. Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”). | Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
20. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff etc. | Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
21. Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc. | Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
22. Y ddyletswydd i benderfynu terfyn benthyca fforddadwy. | Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
23. Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau. | Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
24. Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. | Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
Ar y diwedd, ychwaneger:
“22. Swyddogaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a)penderfynu swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(b)penderfynu swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(c)penderfynu swm y mae ei angen i benderfynu swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23. Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.”
1. Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglŷn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer “92” a mewnosoder “108”.
2. Dileer y cofnod ynglŷn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.
3. Ar y diwedd, ychwaneger:
(1) Cynlluniau a Strategaethau | (2) Cyfeirnod |
---|---|
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. | Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (y mae rhaid iddi fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) a bennodd swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn (yn rheoliad 2) yn gwneud newidiadau i Reoliadau 2001 yn Atodlen 1 drwy ychwanegu at restr y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod, drwy ychwanegu at y rhestr o swyddogaethau yn Atodlen 2 a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly) a thrwy ddiwygio Atodlen 3 drwy ychwanegu at swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.
O.S. 2001/2291 (Cy.179) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002 O.S. 2002/783 (Cy. 84) a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 O.S. 2003/153 (Cy.23).