2004 Rhif 3092 (Cy.266)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
2
Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau2
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 20012 fel a ganlyn —
a
yn rheoliad 2, (ym mharagraff (i)) o'r diffiniad o “pwyllgor ardal” dileer “gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1”;
b
yn is-baragraff (2)(b) o reoliad 4 mewnosoder ar y diwedd “a'r is-bwyllgorau”;
c
ym mharagraff (2)(a) o reoliad 8 ar ei ddiwedd dileer “a” a mewnosoder “neu”;
ch
yn is-baragraff (9)(a) o reoliad 10 mewnosoder ar y dechrau —
yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2
d
ym mharagraff (1) o reoliad 14 ar ôl “gyfrifoldeb” mewnosoder —
i'r awdurdod lleol (heblaw'r rhai y mae'n rhaid iddynt gael eu cyflawni gan awdurdod cyfan yn unig) neu
dd
yn Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod) yn unol â Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
e
yn Atodlen 2 (Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly)) yn unol â Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn;
f
yn Atodlen 3 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig) yn unol â Rhan 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
ATODLEN 1
Rhan 1Diwygiadau i Atodlen 1
1
Yn Rhan B mewnosoder ar ôl paragraff 66:
Y Swyddogaeth | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
| Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
2
Yn Rhan I:
1
dileer paragraffau 18, 19; a
2
mewnosoder ar ôl paragraff 17:
Swyddogaethau | Darpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
---|---|
| Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
| Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
| Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
| Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
| Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
| Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
| Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
RHAN 2Diwygiadau i Atodlen 2
Ar y diwedd, ychwaneger:
22
Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen y dreth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
a
penderfynu swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
b
penderfynu swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
c
penderfynu swm y mae ei angen i benderfynu swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23
Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.
RHAN 3Diwygiadau i Atodlen 3
1
Yng ngholofn (2) o'r paragraff ynglyn â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol dileer “92” a mewnosoder “108”.
2
Dileer y cofnod ynglyn â'r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd.
3
Ar y diwedd, ychwaneger:
(1) Cynlluniau a Strategaethau | (2) Cyfeirnod |
---|---|
Y pwerau i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. | Adrannau 123, 124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)