Search Legislation

Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), fel y'i diwygiwyd eisoes), sef “Rheoliadau 2001”, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru'n unig.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100/EC (OJ Rhif L285, 01.11.2003, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L140, 30.05.2002, t.15) ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid, ac yn gweithredu hefyd Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC (OJ Rhif L067, 05.03.2004, t.31) sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid.

3.  Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2001—

(a)drwy fynnu ei bod yn rhaid darparu, ar gyfer yr awdurdod cymwys ac os gofynnir amdano, ddadansoddiad sy'n dangos beth yw lefel arsenig anorganig mewn bwydydd anifeiliaid penodol neu ddeunydd bwyd anifeiliaid (paragraff (2));

(b)drwy wneud diwygiadau manwl i'r rhestr o ddeunyddiau gwaharddedig a geir yn rheoliad 13 o Reoliadau 2001, a thrwy ymestyn y gwaharddiad presennol ar eu cylchredeg neu eu defnyddio mewn cysylltiad â bwydydd anifeiliaid cyfansawdd i gynnwys eu cylchredeg neu eu defnyddio fel deunyddiau bwyd anifeiliaid (paragraff (3));

(c)drwy ychwanegu at Ran IX o Atodlen 3 wyth o Reoliadau newydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n awdurdodi ychwanegion newydd neu ffordd newydd o ddefnyddio ychwanegion penodol mewn bwydydd anifeiliaid neu, yn ôl y digwydd, drwy wneud yr awdurdodiad a roddwyd dros dro i ychwanegyn yn awdurdodiad parhaol (paragraff (4));

(ch)drwy ddiwygio'r cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol a geir yn Atodlen 7 i Reoliadau 2001 mewn perthynas ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan (paragraff (5)).

4.  Mae rheoliadau 3 i 5 hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i gyfeiriadau at y Rheoliadau Porthiant fel y maent yn ymddangos mewn amrywiol Reoliadau ac yn Neddf Amaethyddiaeth 1970.

5.  Yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 paratowyd arfarniad ar yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y caiff prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC eu trosi'n gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources