2004 Rhif 3091 (Cy.265)
Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 79(2) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723 mewn perthynas â mesurau sy'n berthnasol i fwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd, neu a roddir yn fwyd iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran olaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
Diwygiadau i Reoliadau Porthiant (Cymru) 20012
1
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 20015 yn unol â pharagraffau (2) i (4).
2
Yn rheoliad 12 (rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid), ar ôl paragraff (6) ychwaneger y canlynol —
7
Mae paragraffau (8) a (9) yn gymwys i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir ar gyfer porthiant —
a
echdynnydd cnewllyn palmwydd;
b
porthiant a geir o brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;
c
blawd gwymon a deunyddiau porthiant sy'n deillio o wymon; neu
ch
porthiant cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
8
Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (7), os bydd arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny, gaffael a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad er mwyn dangos bod yr arsenic inorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir ar gyfer porthiant a restrir ym mharagraff (7) yn dod o fewn y terfyn a bennir yn y cofnod perthnasol yng ngholofn 3 o Ran I o Atodlen 7.
9
Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (8) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
3
Yn lle rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig) rhodder y canlynol —
Rheoli porthiant sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig13
1
Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant, neu ddefnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys —
a
ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul a wahanwyd yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a gawsant eu trin neu eu cymysgu mewn unrhyw ffordd ai peidio;
b
croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;
c
hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gyda'r bwriad o'u defnyddio ar gyfer lluosogi planhigion, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;
ch
pren, gan gynnwys blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren, a gafodd ei drin â chadwolion pren fel y'u diffinnir yn Atodiad V o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gosod cynhyrchion bywleiddaidd ar y farchnad6;
d
yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a yw wedi'i brosesu neu i'w brosesu ymhellach ai peidio) a geir o drin dwr gwastraff trefol, dwr gwastraff domestig, neu o drin dwr gwastraff diwydiannol (fel y diffinnir y termau “urban waste water”, “domestic waste water” ac “industrial waste water” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff), o ba le bynnag y daeth y dwr gwastraff dan sylw yn wreiddiol7;
dd
gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond heb gynnwys gwastraff arlwyo fel y'i diffinnir gan Reoliad (EC) 1774/2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta8;
e
deunydd pecynnu a rhannau o ddeunydd pecynnu cynhyrchion a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
2
At ddibenion paragraff (1) ystyr “gwastraff” fydd yr ystyr a roddir i “waste” yn nhestun Saesneg Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC 9).
3
At ddibenion paragraff (1)(d), caiff y term “dwr gwastraff” ei ddehongli yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid10.
4
Yn Rhan IX (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3 —
a
ar ôl y cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 490/2004 mewnosoder y canlynol —
Commission Regulation (EC) No. 879/2004 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (Saccharomyces cerevisiae) (27).
Commission Regulation (EC) No. 880/2004 authorising without time limit the use of beta-carotene and canthaxanthin as additives in feeding stuffs belonging to the group of colouring matters including pigments (28).
Commission Regulation (EC) No. 1259/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives already authorised in feeding stuffs (29).
Commission Regulation (EC) No. 1288/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives and the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (30).
Commission Regulation (EC) No. 1332/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (31).
Commission Regulation 1333/2004 concerning the permanent authorisation of a certain additive in feeding stuffs (32).
Commission Regulation (EC) No. 1453/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (33).
Commission Regulation (EC) No. 1465/2004 concerning the permanent authorisation of an additive in feeding stuffs (34).
b
ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —
27
OJ No. L162, 30.4.2004, p.65.
28
OJ No. L162, 30.4.2004, p.68.
29
OJ No. L239, 9.7.2004, p.8.
30
OJ No. L243, 15.7.2004, p.10.
31
OJ No. L247, 21.7.2004, p.8.
32
OJ No. L247, 21.7.2004, p.11.
33
OJ No. L269, 17.8.2004, p.3.
34
OJ No. L270, 18.8.2004, p.11.
5
Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan a geir yng ngholofnau 1 i 3 o Ran 1 (Feeding Stuffs) o Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) rhaid rhoi'r cofnodion a geir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Cymru) 20013
1
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ymhellach yn unol â pharagraffau (2) a (3).
2
Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
3
Ym mharagraff (1) o reoliad 24 (diwygio adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 19994
1
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 199911 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3).
2
Ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
3
Ym mharagraff (11)(a) o Ran II (nodiadau ar gwblhau'r dystysgrif) o Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No. 2)”.
Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Gorfodi) 19995
1
Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 199912i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (5).
2
Ym mharagraff (2)(a) ac ym mharagraff (4) o reoliad 7 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) ar ôl yr ail “(Wales)” yn y ddau baragraff mewnosoder “(No.2)”.
3
Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 9, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
4
Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 10, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos.
5
Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B, rhodder y geiriau “(Wales) (No. 2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199813
YR ATODLENCOFNODION I'W RHOI YN LLE COFNODION YN RHAN 1 O ATODLEN 7 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001
Column 1 | Column 2 | Column 3 |
---|---|---|
Arsenic | Feed materials except: | 2 |
— meal made from grass, from dried lucerne and from dried clover and dried sugar beet pulp and dried molasses sugar beet pulp | 4 | |
— palm kernel expeller | 4 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
— phosphates and calcareous marine algae | 10 | |
— calcium carbonate | 15 | |
— magnesium oxide | 20 | |
— feedingstuffs obtained from the processing of fish or other marine animals | 15 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
— seaweed meal and feed materials derived from seaweed | 40 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
Complete feeding stuffs except: | 2 | |
— complete feeding stuffs for fish and fur-producing animals | 6 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2) | |
Complementary feeding stuffs except: | 4 | |
— mineral feeding stuffs | 12 | |
Note in respect of all entries in column 3 | ||
The maximum levels refer to total arsenic | ||
Fluorine | Feed materials except: | 150 |
— feedingstuffs of animal origin with the exception of marine crustaceans such as marine krill | 500 | |
— phosphates and marine crustaceans such as marine krill | 2000 | |
— calcium carbonate | 350 | |
— magnesium oxide | 600 | |
— calcareous marine algae | 1000 | |
Complete feeding stuffs except: | 150 | |
— complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats | ||
— in milk | 30 | |
— other | 50 | |
— complete feeding stuffs for pigs | 100 | |
— complete feeding stuffs for poultry | 350 | |
— complete feeding stuffs for chicks | 250 | |
Mineral mixtures for cattle, sheep and goats | 2000 | |
Other complementary feeding stuffs | 125 (fluorine content per percentage point phosphorous in the feeding stuff) | |
Lead | Feed materials except: | 10 |
— grass meal, lucerne meal or clover meal | 40 | |
— calcium carbonate | 20 | |
— phosphates and calcareous marine algae | 15 | |
— yeast | 5 | |
Complete feeding stuffs | 5 | |
Complementary feeding stuffs except: | 10 | |
— mineral feeding stuffs | 15 | |
Aflatoxin B1 | All feed materials | 0.02 |
Complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats except: | 0.02 | |
— dairy animals | 0.005 | |
— calves and lambs | 0.01 | |
Complete feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) | 0.02 | |
Other complete feeding stuffs | 0.01 | |
Complementary feeding stuffs for cattle, sheep and goats (except complementary feeding stuffs for dairy animals, calves and lambs) | 0.02 | |
Complementary feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) | 0.02 | |
Other complementary feeding stuffs | 0.005 | |
Free Gossypol | Feed materials except: | 20 |
— cotton-seed | 5000 | |
— cotton-seed cakes and cotton-seed meal | 1200 | |
Complete feeding stuffs except: | 20 | |
— complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats | 500 | |
— complete feeding stuffs for poultry (except laying hens) and calves | 100 | |
— complete feeding stuffs for rabbits and pigs (except piglets) | 60 | |
Endosulphan (sum of alpha- and beta-isomers and of endosulphan sulphate, expressed as endosulphan) | All feeding stuffs except: | 0.1 |
— maize and products derived from the processing thereof | 0.2 | |
— oilseeds and products derived from the processing thereof | 0.5 | |
— complete feeding stuffs for fish | 0.005 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)