xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Erthygl 32

ATODLEN 6ER MWYN DIOGELU NETWORK RAIL

Rhagarweiniad

1.—(1Bydd darpariaethau canlynol yr Atodlen hon yn effeithiol oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a Network Rail.

(2Yn yr Atodlen hon—

mae “adeiladu” (“construction”, “construct”) yn cynnwys gweithredu, gosod, addasu ac ailadeiladu ac mae i “wedi adeiladu” (“constructed”) ystyr gyfatebol;

ystyr “cwmni cysylltiedig perthnasol” (“relevant associated company”) yw unrhyw gwmni sydd (o fewn ystyr adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985(1)) yn gwmni daliannol i Network Rail Infrastructure Limited, yn is-gwmni i Network Rail Infrastructure Limited, neu i is-gwmni arall cwmni daliannol Network Rail Infrastructure Limited, ac, yn unrhyw achos o'r fath, yn dal neu'n defnyddio eiddo at ddibenion rheilffyrdd;

ystyr “eiddo'r rheilffyrdd” (“railway property”) yw unrhyw rheilffordd sy'n perthyn i Network Rail ac unrhyw weithfeydd, cyfarpar ac offer sy'n perthyn i Network Rail neu gwmni cysylltiedig perthnasol sy'n gysylltiedig ag unrhyw reilffordd o'r fath, ac sy'n cynnwys unrhyw dir a ddelir neu a ddefnyddir gan Network Rail neu gwmni cysylltiedig perthnasol at ddibenion y rheilffordd, y gweithfeydd, y cyfarpar neu'r offer hynny.

ystyr “gwaith perthnasol” (“relevant work”) yw—

(a)

pa faint bynnag o unrhyw weithfeydd awdurdodedig sydd wedi'i leoli ar, ar draws, o dan, dros, o fewn 15 metr o, neu a all gael unrhyw effaith niweidiol ar, eiddo'r rheilffyrdd; a

(b)

i'r graddau nad yw'n waith awdurdodedig, unrhyw waith diogelu a adeiladwyd gan yr ymgymerwr;

ystyr “gweithfeydd diogelu” (“protective works”) yw gweithfeydd a bennir gan y peiriannydd o dan baragraff 5(1);

ystyr “Network Rail” yw Network Rail Infrastructure Limited, ac eithrio'r ffaith bod unrhyw gyfeiriad at gostau neu at golledion a welwyd gan Network Rail yn cynnwys cyfeiriad at y costau neu'r colledion a welwyd gan unrhyw gwmni cysylltiedig perthnasol;

ystyr “y peiriannydd” (“the engineer”) yw peiriannydd sydd i'w benodi gan Network Rail at y diben o dan sylw; ac

mae ystyr “planiau” (“plans”) yn cynnwys trawsluniau, dyluniadau, darluniau, manylebau, adroddiadau ar bridd, cyfrifiadau, disgrifiadau (gan gynnwys disgrifiadau o ddulliau adeiladu) a rhaglenni.

Y pwerau sydd angen cydsyniad Network Rail

2.—(1Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau gorfodol a roddir gan neu o dan y Gorchymyn hwn, beidio â chaffael neu ddefnyddio, na chaffael hawliau newydd dros unrhyw eiddo'r rheilffyrdd, oni bai i Network Rail gydsynio i arfer y pwerau hynny.

(2Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer y pwerau a roddir gan erthygl 7 na'r pwerau a roddir gan adran 11(3) o Ddeddf 1965 mewn perthynas ag unrhyw eiddo'r rheilffyrdd, oni bai i Network Rail gydsynio i arfer y pwerau hynny.

(3Rhaid i'r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan neu o dan y Gorchymyn hwn, beidio â gwrthod mynediad i unrhyw eiddo'r rheilffyrdd i gerddwyr nac i gerbydau, oni bai i Network Rail gydsynio i hynny.

(4Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer y pwerau a roddir gan adran 271 neu 272 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y'u cymhwyswyd gan Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn, mewn perthynas ag unrhyw hawl mynediad sydd gan Network Rail i eiddo'r rheilffyrdd, ond caniateir dargyfeirio'r hawl honno gyda chydsyniad Network Rail.

(5Pan ofynnir i Network Rail gydsynio o dan y paragraff hwn, ni chaniateir gwrthod nac oedi rhag cydsynio, a hynny yn afresymol, ond gellir cydsynio yn ddarostyngedig i amodau rhesymol.

Cymeradwyo planiau

3.—(1Cyn dechrau adeiladu unrhyw weithfeydd perthnasol, rhaid i'r ymgymerwr roi planiau priodol a digonol o'r gweithfeydd hynny i Network Rail i'r peiriannydd gael eu cymeradwyo yn rhesymol, ac ni chaiff yr ymgymerwr ddechrau adeiladu unrhyw weithfeydd perthnasol hyd nes i blaniau'r gweithfeydd gael eu cymeradwyo yn ysgrifenedig gan y peiriannydd, neu eu cytuno drwy gymrodeddu.

(2Ni chaniateir gwrthod nac oedi cymeradwyaeth y peiriannydd o dan is-baragraff (1) yn afresymol, ac, os nad yw'r peiriannydd wedi dangos nad yw'n cymeradwyo'r planiau hynny a'r rhesymau sy'n sail i'w anghymeradwyaeth erbyn diwedd cyfnod o 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd y planiau hynny i Network Rail, bernir i'r peiriannydd gymeradwyo'r planiau fel y'u darparwyd hwy.

Network Rail yn dewis adeiladu'r gweithfeydd perthnasol ei hunan

4.—(1Os bydd Network Rail yn ystyried, yn rhesymol, bod unrhyw weithfeydd perthnasol neu unrhyw ran o weithfeydd perthnasol yn effeithio ar sefydlogrwydd eiddo'r rheilffyrdd neu ar weithredu traffig yn ddiogel ar ei reilffyrdd neu y gall wneud hynny, caiff ddewis adeiladu'r gweithfeydd perthnasol neu ran ohonynt ei hunan drwy hysbysu'r ymgymerwr, gan bennu'r gweithfeydd neu'r rhan ohonynt sydd o dan sylw (“y gweithfeydd a bennwyd”) (“the specified work”) a datgan ei fod yn dymuno adeiladu'r gwaith hwnnw neu ran ohono.

(2Ni chaniateir rhoi hysbysiad o ddewis felly o dan is-baragraff (1) ar ôl i'r cyfnod o 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau gyda'r dyddiad y cyflwynwyd y planiau o'r gweithfeydd a bennwyd i Network Rail o dan baragraff 3, ddod i ben.

(3Ar ôl i Network Rail ddewis felly, o dan is-baragraff (1), ni chaniateir i neb ac eithrio Network Rail adeiladu'r gweithfeydd a bennwyd, a hynny yn unol ag is-baragraff (4).

(4Os yw'r ymgymerwr yn cadarnhau ei fod yn dymuno i'r gweithfeydd a bennwyd gael eu hadeiladu, rhaid i Network Rail eu hadeiladu ar ran yr ymgymerwr (ynghyd ag unrhyw ran gydffiniol o unrhyw waith perthnasol y gall yr ymgymerwr ofyn yn rhesymol am eu hadeiladu ar yr un pryd â'r gweithfeydd a bennwyd)—

(a)â phob brys rhesymol;

(b)fel bod yr ymgymerwr yn rhesymol fodlon;

(c)yn unol â'r planiau a gymeradwywyd neu a gytunwyd o dan baragraff 3; ac

(ch)dan oruchwyliaeth yr ymgymerwr (pan fo'n briodol ac os y'i rhoddir).

Gwaith diogelu

5.—(1Pan fo'n dangos ei fod yn cymeradwyo planiau unrhyw weithfeydd perthnasol, caiff y peiriannydd bennu unrhyw waith diogelu (boed hynny'n barhaol neu dros dro) y mae'n ei ystyried yn rhesymol y dylid ei wneud cyn cychwyn ar y gweithfeydd perthnasol er mwyn sicrhau diogelwch neu sefydlogrwydd eiddo'r rheilffyrdd ac er mwyn parhau i weithredu rheilffyrdd Network Rail, neu wasanaethau'r gweithredwyr sy'n defnyddio'r rheilffyrdd hynny, yn ddiogel ac yn effeithlon; a chaiff y cyfryw waith diogelu gynnwys adleoli unrhyw waith, cyfarpar ac offer sydd eu hangen yn sgil y gweithfeydd perthnasol.

(2Rhaid i unrhyw waith diogelu gael ei adeiladu gan Network Rail neu gan yr ymgymerwr, os yw Network Rail yn dymuno hynny, â phob brys rhesymol; a rhaid i'r ymgymerwr beidio â dechrau adeiladu'r gweithfeydd perthnasol hyd nes i'r peiriannydd hysbysu'r ymgymerwr fod y gwaith diogelu wedi'i gwblhau hyd at safon y mae'r peiriannydd yn rhesymol fodlon â hi.

Adeiladu'r gweithfeydd perthnasol

6.—(1Ar ôl ei gychwyn, rhaid adeiladu unrhyw waith perthnasol—

(a)â phob brys rhesymol yn unol â'r planiau a gymeradwywyd neu a gytunwyd o dan baragraff 3;

(b)o dan oruchwyliaeth y peiriannydd (pan fo'n briodol ac os y'i rhoddir) a hyd nes ei fod yn rhesymol fodlon;

(c)yn y fath fodd fel yr achosir cyn lleied o ddifrod â phosibl i eiddo'r rheilffyrdd; ac

(ch)i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, fel na fydd yn ymyrryd â defnydd rhydd, di-dor a diogel unrhyw un o reilffyrdd Network Rail neu'r traffig ar y rheilffyrdd hynny a defnydd teithwyr o eiddo'r rheilffyrdd, nac yn rhwystro defnydd felly.

(2Os digwydd i'r ymgymerwr achosi unrhyw ddifrod i eiddo'r rheilffyrdd wrth, neu o ganlyniad i, adeiladu unrhyw weithfeydd perthnasol, rhaid iddo wneud yn iawn am y difrod hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Mynediad

7.  Rhaid i'r ymgymerwr—

(a)darparu cyfleusterau rhesymol i'r peiriannydd i gael mynediad at unrhyw weithfeydd perthnasol yn ystod cyfnod yr adeiladu, a hynny ar bob adeg; a

(b)rhoi'r holl wybodaeth y gall fod ei hangen yn rhesymol ar y peiriannydd iddo, o ran unrhyw waith perthnasol neu'r dull o'i adeiladu.

8.  Rhaid i Network Rail—

(a)ddarparu cyfleusterau rhesymol i'r ymgymerwr a'i asiantwyr i gael mynediad at unrhyw weithfeydd a wneir gan Network Rail o dan yr Atodlen hon yn ystod cyfnod yr adeiladu, a hynny ar bob adeg; a

(b)rhoi'r holl wybodaeth y gall fod ei hangen yn rhesymol ar yr ymgymerwr iddo, o ran unrhyw weithfeydd felly neu'r dull o'u hadeiladu.

Ffensys

9.  Pan fo'r peiriannydd yn gofyn amdano, rhaid i'r ymgymerwr adeiladu ffensys o amgylch y gweithfeydd perthnasol, fel bod y peiriannydd yn rhesymol fodlon â hwy, neu rhaid iddo gymryd y camau eraill hynny y gall y peiriannydd fynnu eu bod yn cael eu cymryd at ddibenion gwahanu'r gweithfeydd perthnasol o eiddo'r rheilffyrdd, boed hynny dros dro neu'n barhaol, neu'r ddau).

Cynnal a chadw'r gweithfeydd perthnasol

10.  Rhaid i'r ymgymerwr sicrhau bod unrhyw weithfeydd perthnasol, ac eithrio gwaith sy'n perthyn i Network Rail (neu gwmni cysylltiedig perthnasol), yn cael ei gynnal a'i gadw yn y fath gyflwr fel nad yw'n peri unrhyw effaith niweidiol ar weithredu eiddo'r rheilffyrdd.

Addasiadau, etc. i eiddo'r rheilffyrdd: ad-dalu treuliau ychwanegol

11.  Os—

(a)oes angen rhesymol i gael unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau ar eiddo'r rheilffyrdd, boed yn rhai parhaol neu'n rhai dros dro, yn ystod y cyfnod o adeiladu unrhyw weithfeydd perthnasol neu yn ystod cyfnod o 12 mis gan ddechrau o ddyddiad cwblhau'r gwaith hwnnw, o ganlyniad i adeiladu'r gweithfeydd perthnasol; a

(b)bydd Network Rail yn rhoi hysbysiad rhesymol i'r ymgymerwr o'i fwriad i wneud yr addasiadau neu'r ychwanegiadau hynny, gan bennu'r addasiadau neu'r ychwanegiadau o dan sylw,

rhaid i'r ymgymerwr dalu costau rhesymol gwneud yr addasiadau neu'r ychwanegiadau hynny i Network Rail.

Ad-dalu costau Network Rail o ran yr adeiladu

12.  Rhaid i'r ymgymerwr dalu swm i Network Rail sy'n cyfateb i unrhyw gostau a dynnwyd yn rhesymol gan Network Rail—

(a)wrth adeiladu unrhyw waith ar ran yr ymgymerwr, fel y mae paragraff 4 yn darparu, neu wrth adeiladu unrhyw weithfeydd diogelu, fel y mae paragraff 5 yn darparu; a

(b)o ran bod y peiriannydd yn cymeradwyo'r planiau a gyflwynodd yr ymgymerwr, ac o ran goruchwyliaeth y peiriannydd o'r gwaith o adeiladu unrhyw weithfeydd perthnasol.

Costau ychwanegol Network Rail wrth gynnal a chadw gweithfeydd newydd

13.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau'r gweithfeydd perthnasol, rhaid i'r ymgymerwr dalu swm cyfalafog i Network Rail i gynrychioli'r cynnydd yn y gost y caiff ddisgwyl yn rhesymol fynd iddi wrth gynnal a chadw unrhyw—

(a)gweithfeydd diogelu a adeiladwyd o dan baragraff 5;

(b)addasiadau ac ychwanegiadau a wnaed yn unol â pharagraff 11.

(2Os gostyngir y gost o gynnal a chadw, gweithredu neu adnewyddu eiddo'r rheilffyrdd o ganlyniad i unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau, bydd swm cyfalafog, sy'n cynrychioli'r arbedion hynny, yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw swm sy'n daladwy gan yr ymgymerwr i Network Rail o dan is-baragraff (1)(b).

(3Rhaid i'r peiriannydd, mewn perthynas â'r symiau cyfalafog y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn, ddarparu'r manylion hynny o'r fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r symiau hynny y caiff yr ymgymerwr ofyn amdanynt yn rhesymol.

Costau ychwanegol i Network Rail wrth gynnal a chadw eiddo presennol y rheilffyrdd

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r ymgymerwr dalu Network Rail swm sy'n cyfateb i unrhyw gynnydd yn y costau y bydd yn mynd iddynt yn rhesymol o bryd i'w gilydd wrth gynnal a chadw eiddo presennol y rheilffyrdd oherwydd bod y gweithfeydd perthnasol yn agos at eiddo'r rheilffyrdd o dan sylw.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw waith cynnal a chadw, ac eithrio—

(a)bod Network Rail wedi rhoi 56 o ddiwrnodau o hysbysiad i'r ymgymerwr o'i fwriad i gyflawni'r gwaith hwnnw, gan bennu natur y gwaith o dan sylw; a

(b)bod y gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud o dan bwerau sydd eisoes yn bod.

Indemniad cyffredinol

15.—(1Rhaid i'r ymgymerwr dalu Network Rail swm sy'n cyfateb i unrhyw golledion neu gostau nad oes darpariaethau eraill ar eu cyfer yn yr Atodlen hon, ac a dynnwyd yn rhesymol gan Network Rail neu a welwyd ganddo oherwydd—

(a)adeiladu, cynnal a chadw neu fethiant y gweithfeydd perthnasol; neu

(b)unrhyw weithred neu anwaith ar ran yr ymgymerwr, neu ar ran unrhyw berson a gyflogwyd ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau tra'n gweithio ar y gweithfeydd perthnasol.

(2Ni fydd y ffaith y gwnaed unrhyw weithred neu beth gan Network Rail ar ran yr ymgymerwr, neu yn unol â'r planiau a gymeradwywyd gan y peiriannydd, neu yn unol ag unrhyw ofyniad gan y peiriannydd neu o dan ei oruchwyliaeth (os y'i gwnaed heb esgeuluster ar ran Network Rail neu ar ran unrhyw berson a gyflogwyd ganddo neu gan ei gontractwyr neu ei asiantau) yn esgusodi'r ymgymerwr o'i atebolrwydd o dan ddarpariaethau'r paragraff hwn.

Iawndal ar gyfer gweithredwyr trenau

16.—(1Bydd y symiau sy'n daladwy gan yr ymgymerwr o dan baragraff 15 yn cynnwys swm sy'n cyfateb i'r costau perthnasol.

(2Yn ddarostyngedig i amodau unrhyw gytundeb rhwng Network Rail a'r gweithredwyr trenau perthnasol ynghylch amseru neu ddull talu'r costau perthnasol o ran y gweithredwr trenau hwnnw, rhaid i Network Rail dalu pob gweithredwr trenau yn brydlon faint y symiau a gafodd Network Rail o dan is-baragraff (1) sy'n ymwneud â chostau perthnasol y gweithredwr trenau hwnnw.

(3Os digwydd diffyg, mae'r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (1) i dalu Network Rail y costau perthnasol yn orfodadwy gan y gweithredwr trenau o dan sylw yn uniongyrchol, i'r graddau y byddai'r symiau hynny yn daladwy i'r gweithredwr hwnnw yn unol ag is-baragraff (2).

(4Yn y paragraff hwn—

ystyr “costau perthnasol” (“relevant costs”)yw'r costau, y colledion uniongyrchol a'r treuliau (gan gynnwys colli refeniw) a dynnwyd yn rhesymol gan bob gweithredwr trenau oherwydd unrhyw gyfyngiad ar ddefnyddio rhwydwaith reilffyrdd Network Rail o ganlyniad i'r gwaith adeiladu, neu'r gwaith cynnal a chadw neu fethiant y gweithfeydd perthnasol neu unrhyw weithred neu anwaith o'r fath a grybwyllir ym mharagraff 15(1); ac

ystyr “gweithredwr trenau” (“train operator”) yw unrhyw berson sy'n gweithredu trenau yn unol â thrwydded o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(2) neu ag esemptiad o dan adran 7 o'r Ddeddf honno.

17.  Wrth gyfrifo unrhyw symiau sy'n daladwy o dan yr Atodlen hon, ni ddylid ystyried unrhyw gynnydd yn y symiau a hawlir y gellir ei briodoli i unrhyw weithred a wnaed neu unrhyw gytundeb yr ymrwymwyd iddo gan Network Rail os nad oedd angen rhesymol am y weithred neu'r cytundeb ac os y'i gwnaed neu yr ymrwymwyd iddo gyda'r bwriad o dderbyn tâl am y symiau hynny gan yr ymgymerwr o dan yr Atodlen hon, neu gyda'r bwriad o gynyddu'r symiau sy'n daladwy felly.

Arbedion ar gyfer cytundebau mynediad

18.—(1Pan fo gofyn, o dan yr Atodlen hon, i Network Rail gydsynio i unrhyw fater neu ei gymeradwyo, gellir rhoi'r cydsyniad hwnnw neu'r gymeradwyaeth honno yn ddarostyngedig i'r amod bod Network Rail yn cydymffurfio â'r rheini o'i rwymedigaethau yn unol ag unrhyw gytundeb mynediad neu unrhyw brydles ar orsaf neu ar orsaf cynnal-a-chadw ysgafn sy'n berthnasol i'r mater hwnnw.

(2Yn y paragraff hwn, mae i “cytundeb mynediad”, “gorsaf” a “gorsaf cynnal a chadw ysgafn” yr un ystyr ag sydd i “access agreement”, “station” a “light maintenance depot” yn adran 83 o Deddf Rheilffyrdd 1993.