1. Dyma'r gweithfeydd y mae'r ymgymerwr wedi'i awdurdodi i'w hadeiladu a'u cynnal a'u cadw gan erthygl 3(1), sef y gweithfeydd canlynol ar wely Bae Abertawe sy'n cydffinio â'r arfordir rhwng Porthcawl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac ar dir o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot—
Gwaith Rhif 1 — Gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt, sy'n cynnwys—
(a)hyd at 30 o gynhyrchwyr tyrbinau gwynt sydd wedi'u gosod yn sownd wrth wely'r môr gan un neu fwy o byst neu seiliau disgyrchiant, ac sy'n ymestyn i uchder o hyd at 130.5 metr uwchben lefel y dwr uchel, sydd wedi'u gosod â llafnau sy'n cylchdroi ac a leolir yn y safleoedd a ganlyn—
Rhif y tyrbin gwynt Cyfeirbwynt — Dwyreiniad Cyfeirbwynt — Gogleddiad 1 269103 177986 2 269219 177481 3 269361 176982 4 269828 178465 5 269928 177953 6 270057 177448 7 270214 176951 8 270569 178920 9 270651 178407 10 270763 177901 11 270907 177402 12 271081 176912 13 271368 178982 14 271440 178540 15 271537 178103 16 271660 177672 17 271808 177250 18 271980 176836 19 272167 179040 20 272251 178566 21 272367 178099 22 272516 177641 23 272696 177195 24 272907 176762 25 272657 178920 26 273059 178614 27 273184 178160 28 273344 177716 29 273537 177286 30 273763 176872 (b)rhwydwaith o geblau sy'n cysylltu'r tyrbinau gwynt â'i gilydd.
Gwaith Rhif 2 — Cysylltiad rhwng Gwaith Rhif 1 a Gwaith Rhif 2A, sy'n cynnwys hyd at bedwar cebl bwydo i'r môr ar hyd llwybrau sy'n dechrau drwy gysylltu ag un neu fwy o'r tyrbinau, ac sy'n parhau tua'r gogledd-ddwyrain am 7.22 cilometr hyd nes iddynt gyrraedd y lan, ac sy'n gorffen drwy gysylltu â Gwaith Rhif 2A.
Gwaith Rhif 2A — Estyniad o'r ceblau a geir yng Ngwaith Rhif 2 sydd wedi'u claddu dan ddaear, gan ddechrau mewn blwch cyswllt wrth gyfeirbwynt 277406Dn, 184576G, ac sy'n ymestyn am 121 metr tua'r dwyrain ac sy'n gorffen yng Ngwaith Rhif 3.
Gwaith Rhif 3 — Is-orsaf drydan a leolir wrth 277527Dn, 184608G.
Gwaith Rhif 4 — Cysylltiad rhwng ceblau ar y tir a'r grid trydanol, sef dwy linell drydan, sy'n dechrau wrth Waith Rhif 3 ac a gludir uwchben tua'r gogledd-ddwyrain i gyfeirbwyntiau 278758E, 185469N ac 278784E, 185392N, wedyn yn mynd o dan ddaear ar draws cilffyrdd y rheilffyrdd a rheilffordd Abertawe i Lundain, gan derfynu wrth gysylltu â'r peilon trydan bresennol.
Gwaith Rhif 5 — Heol newydd sy'n rhoi mynediad i'r gwaith adeiladu a chynnal a chadw rhwng Gwaith Rhif 3 a'r heol a elwir ffordd yr harbwr.