YR ATODLENNI
ATODLEN 1Y GWEITHFEYDD A RESTRWYD
1
Dyma'r gweithfeydd y mae'r ymgymerwr wedi'i awdurdodi i'w hadeiladu a'u cynnal a'u cadw gan erthygl 3(1), sef y gweithfeydd canlynol ar wely Bae Abertawe sy'n cydffinio â'r arfordir rhwng Porthcawl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac ar dir o fewn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot—
Gwaith Rhif 1 — Gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt, sy'n cynnwys—
- a
hyd at 30 o gynhyrchwyr tyrbinau gwynt sydd wedi'u gosod yn sownd wrth wely'r môr gan un neu fwy o byst neu seiliau disgyrchiant, ac sy'n ymestyn i uchder o hyd at 130.5 metr uwchben lefel y dwr uchel, sydd wedi'u gosod â llafnau sy'n cylchdroi ac a leolir yn y safleoedd a ganlyn—
Rhif y tyrbin gwynt
Cyfeirbwynt — Dwyreiniad
Cyfeirbwynt — Gogleddiad
1
269103
177986
2
269219
177481
3
269361
176982
4
269828
178465
5
269928
177953
6
270057
177448
7
270214
176951
8
270569
178920
9
270651
178407
10
270763
177901
11
270907
177402
12
271081
176912
13
271368
178982
14
271440
178540
15
271537
178103
16
271660
177672
17
271808
177250
18
271980
176836
19
272167
179040
20
272251
178566
21
272367
178099
22
272516
177641
23
272696
177195
24
272907
176762
25
272657
178920
26
273059
178614
27
273184
178160
28
273344
177716
29
273537
177286
30
273763
176872
- b
rhwydwaith o geblau sy'n cysylltu'r tyrbinau gwynt â'i gilydd.
- a
Gwaith Rhif 2 — Cysylltiad rhwng Gwaith Rhif 1 a Gwaith Rhif 2A, sy'n cynnwys hyd at bedwar cebl bwydo i'r môr ar hyd llwybrau sy'n dechrau drwy gysylltu ag un neu fwy o'r tyrbinau, ac sy'n parhau tua'r gogledd-ddwyrain am 7.22 cilometr hyd nes iddynt gyrraedd y lan, ac sy'n gorffen drwy gysylltu â Gwaith Rhif 2A.
Gwaith Rhif 2A — Estyniad o'r ceblau a geir yng Ngwaith Rhif 2 sydd wedi'u claddu dan ddaear, gan ddechrau mewn blwch cyswllt wrth gyfeirbwynt 277406Dn, 184576G, ac sy'n ymestyn am 121 metr tua'r dwyrain ac sy'n gorffen yng Ngwaith Rhif 3.
Gwaith Rhif 3 — Is-orsaf drydan a leolir wrth 277527Dn, 184608G.
Gwaith Rhif 4 — Cysylltiad rhwng ceblau ar y tir a'r grid trydanol, sef dwy linell drydan, sy'n dechrau wrth Waith Rhif 3 ac a gludir uwchben tua'r gogledd-ddwyrain i gyfeirbwyntiau 278758E, 185469N ac 278784E, 185392N, wedyn yn mynd o dan ddaear ar draws cilffyrdd y rheilffyrdd a rheilffordd Abertawe i Lundain, gan derfynu wrth gysylltu â'r peilon trydan bresennol.
Gwaith Rhif 5 — Heol newydd sy'n rhoi mynediad i'r gwaith adeiladu a chynnal a chadw rhwng Gwaith Rhif 3 a'r heol a elwir ffordd yr harbwr.