Search Legislation

Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IVAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Y pŵer i weithredu a defnyddio gweithfeydd

25.  Caiff yr ymgymerwr weithredu a defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig fel system ar gyfer cynhyrchu a throsglwyddo trydan.

Datgymhwyso adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989

26.  Nid yw darpariaethau adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989(1) yn gymwys mewn perthynas â'r gweithfeydd awdurdodedig.

Rhwystro a chamddefnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig

27.  Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person arall rhag adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw rai o'r gweithfeydd awdurdodedig o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn;

(b)yn clymu rhywbeth yn sownd i unrhyw ran o unrhyw weithfeydd llanw'r môr; neu

(c)yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw weithfeydd awdurdodedig neu â'u gweithredu,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillio ac angori

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol,—

(a)yn ystod y gwaith o adeiladu, ailddodi, ailosod, tynnu oddi yno neu ddadgomisiynu unrhyw weithfeydd llanw'r môr, yn llywio cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 500 metr o unrhyw ran o'r gweithfeydd hynny (neu ardal lai fel y mae modd ei chyhoeddi o dan baragraff (2));

(b)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau rhyngdyrbinau, yn treillio neu yn angori cwch o fewn safle'r fferm wynt ac ardal sy'n ymestyn 200 metr y tu hwnt i'r safle hwnnw;

(c)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau bwydo i'r môr, yn angori cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 200 metr o unrhyw ran o'r cebl hwnnw; neu

(ch)yn sgil cwblhau'r gwaith o adeiladu unrhyw rai o'r strwythurau perthnasol, yn llywio cwch o fewn y parth diogelwch wrth weithredu,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Ni ddaw parth diogelwch yn effeithiol hyd nes—

(a)i 7 niwrnod fynd heibio ar ôl cyhoeddi hysbysiad i forwyr yn pennu lleoliad a maint y parth diogelwch, dyddiad ei gychwyn ac, yn achos parth diogelwch wrth adeiladu, ei gyfnod arfaethedig; a

(b)i'r ymgymerwr gymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o'r parth diogelwch arfaethedig.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn rhoi diwedd ar barth diogelwch (ac eithrio oherwydd paragraff (5)), rhaid i'r ymgymerwr—

(a)cyhoeddi hysbysiad o ddiwedd ar barth drwy gyfrwng hysbysiad i forwyr; a

(b)cymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o ddiwedd ar barth diogelwch.

(4Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i berson sy'n llywio neu'n angori cwch at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu gweithfeydd llanw'r môr, neu mewn cysylltiad â'r dibenion hynny.

(5Bydd paragraff (1)(b), (c) ac (ch) yn peidio â chael effaith os bydd, ac i'r graddau y bydd, y gweithgareddau a bennir yn unrhyw un o'r darpariaethau hynny, o fewn yr ardaloedd hynny a bennir felly, wedi'u gwahardd o dan ddeddfiad perthnasol.

(6Yn yr erthygl hon—

ystyr “y parth diogelwch wrth adeiladu” (“the construction safety zone”) yw ardal y mae mordwyo wedi'i wahardd ynddi o dan baragraff (1)(a);

ystyr “parth diogelwch wrth weithredu” (“operational safety zone”) yw ardal sy'n ymestyn 5 metr o unrhyw ran o strwythur berthnasol (gan gynnwys diogelu rhag sgwrfa'r llanw o amgylch y strwythur honno) neu unrhyw bellter mwy sydd heb fod yn fwy na 50 metr fel y caiff yr ymgymerwr ei benderfynu ar ôl cynnal asesiad risg ac ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r Gymdeithas Iotio Frenhinol;

ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gyffredinol gyhoeddus, neu mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gyffredinol gyhoeddus, ac a ddaw i rym ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn;

ystyr “strwythur berthnasol” (“relevant structure”) yw tyrbin gwynt neu unrhyw un o'r mastiau anemometreg;

ystyr “parth diogelwch” (“safety zone”) yw unrhyw un o'r ardaloedd y gwaherddir gweithgareddau ynddi o dan baragraff (1);

ystyr “treillio” (“trawl”) yw unrhyw weithgaredd pysgota sy'n cynnwys llusgo rhwyd neu linyn neu gyfarpar arall ar hyd gwely'r môr.

Tir penodol sydd i'w drin fel tir gweithredol

29.  Caiff caniatâd cynllunio, y bernir iddo gael ei ddyfarnu gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2) mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn, ei drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion y dylid trin tir fel pe bai'n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Ymgymerwyr statudol, etc.

30.  Mae darpariaethau Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd

31.  Mae darpariaethau Atodlen 5 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Er mwyn diogelu Network Rail

32.  Mae darpariaethau Atodlen 6 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Iawndal i bysgotwyr

33.—(1Os gall person perthnasol ddangos, fel bod yr ymgymerwr wedi'i fodloni yn rhesymol, ei fod wedi gweld colled, neu y bydd yn gweld colled, o ganlyniad i fethu â physgota o fewn yr ardal berthnasol ar ôl cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1 oherwydd arfer pwerau'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal rhesymol i'r person perthnasol i'w ddigolledu am y golled honno.

(2Rhaid gwneud unrhyw gais felly ar ôl i'r gwaith adeiladu ar Waith Rhif 1 ddechrau ond heb fod yn hwyrach na 2 flynedd ar ôl ei gwblhau; a dylid cyfeirio unrhyw anghydfod o ran atebolrwydd am dalu iawndal, neu gyfanswm yr iawndal, i'w gymrodeddu yn unol ag erthygl 39 o'r Gorchymyn hwn.

(3Nid oes gan neb yr hawl i gael iawndal o dan y ddarpariaeth hon os collfarnir hwy yn euog o dramgwydd o dan erthygl 28(1) oherwydd treillio yn yr ardal berthnasol; ac, os caiff unrhyw berson ei gollfarnu o dramgwydd felly ar ôl i iawndal gael ei dalu iddo yn unol â'r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr adennill yr iawndal oddi wrth y person hwnnw.

(4At ddibenion penderfynu pa un a yw person yn berson perthnasol ai peidio, a hyd a lled colled unrhyw berson at ddibenion paragraff (1), ni ddylid cyfrif unrhyw weithgaredd oni bai iddo gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy'n gymwys; ac, yn benodol, ni ddylid cyfrif unrhyw bysgodyn a ddaliwyd oni bai iddo gael ei gynnwys yn y derbyniadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru o dan is-ddeddfau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(3) a, pan fo'n berthnasol, mewn datganiadau a gyflwynwyd o dan erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93(4).

(5Yn yr erthygl hon—

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw perchennog cwch sydd wedi bod yn pysgota o fewn yr ardal berthnasol yn y cwch hwnnw yn rheolaidd wrth gyflawni ei fusnes ym mhob un o'r pum mlynedd yn union cyn cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1; ac

ystyr “yr ardal berthnasol” (“the relevant area”) yw safle'r fferm wynt a'r ardal ychwanegol y cyfeirir ati yn erthygl 28(1)(b).

Ardystio planiau, etc.

34.  Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w hardystio yn wir gopïau, yn eu trefn, o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; a bydd dogfen a ardystiwyd felly yn dderbyniol mewn unrhyw achos fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

35.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae angen neu a awdurdodwyd ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy'r post.

(2Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen yn briodol os cyflwynir hwy i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978???(5) fel y mae'n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1) yw, os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, y cyfeiriad hwnnw ac, fel arall,—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer y person adeg y cyflwyno.

(4Pan fo angen cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall at ddibenion y Gorchymyn hwn, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n meddu ar y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—

(a)ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “y perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a

(b)un ai ei adael yn nwylo'r person yr ymddengys ei fod yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.

(5Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno nas darparwyd amdano yn benodol ynddi.

Dim adennill dwbl

36.  Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw rheol gyfreithiol arall.

Trosglwyddo pwerau

37.—(1Caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, ymrwymo i gytundebau, a'u rhoi ar waith, er mwyn trosglwyddo i berson arall unrhyw un o'r pwerau, neu'r holl bwerau, a roddir i'r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn.

(2Bydd arfer unrhyw bŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn gan unrhyw berson arall yn unol â chytundeb o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau a'r un atebolrwydd o dan y Gorchymyn hwn ac a fyddai'n gymwys ped arferid y pŵer hwnnw gan yr ymgymerwr.

(3Rhaid i'r ymgymerwr hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol a Trinity House yn ysgrifenedig o unrhyw gytundeb i drosglwyddo pwerau sy'n ymwneud â gweithfeydd llanw'r môr i berson arall, gan roi enw a chyfeiriad y person y trosglwyddir y pwerau iddo a'r dyddiad y daw'r trosglwyddo yn effeithiol, a hynny heb fod yn llai na 21 o ddiwrnodau cyn i unrhyw gytundeb o'r fath ddod i rym.

Hawliau'r Goron

38.—(1Ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio'n niweidiol ar unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo'r Goron ac, yn enwedig, ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn awdurdodi'r ymgymerwr i gymryd, defnyddio, mynd ar dir nac ymyrryd mewn unrhyw ffordd â thir, hereditamentau, neu hawliau o ba ddisgrifiad bynnag (gan gynnwys unrhyw ran o'r lan neu o wely'r môr neu unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber) sy'n perthyn i—

(a)Ei Mawrhydi drwy hawl Ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron, heb gydsyniad ysgrifenedig y Comisiynwyr hynny; neu

(b)adran o'r llywodraeth, neu a ddelir dan ymddiriedolaeth i'w Mawrhydi at ddibenion adran o'r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o'r llywodraeth.

(2Caniateir rhoi cydsyniad o dan baragraff (1) yn ddi-amod neu yn ddarostyngedig i'r amodau hynny neu'r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.

Cymrodeddu

39.  Rhaid cyfeirio unrhyw anghytundeb o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio anghytundeb sydd i'w ddyfarnu gan y Tribiwnlys) i'w gymrodeddu a'i benderfynu gan un cymrodeddwr, y caiff y partïon gytuno ar ei benodi ond, os na allant gytuno, caiff ei benodi gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil ar gais y naill barti neu'r llall (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r llall).

(4)

O.J. Rhif L261, 20.10.93 t.l.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources