RHAN IIGWEITHFEYDD

Prif bwerau

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd3

1

Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw y gweithfeydd a restrwyd.

2

Caiff yr ymgymerwr gadw a chynnal y mast presennol.

3

Yn ddarostyngedig i erthygl 4, rhaid i'r gweithfeydd a restrwyd gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw yn y llinellau neu'r safleoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol â'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau.

4

Caiff yr ymgymerwr, o fewn terfynau gwyro'r gweithfeydd a restrwyd, wneud, darparu a chynnal a chadw y cyfryw rai o'r gweithfeydd a'r adnoddau a ganlyn a all fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu neu gynnal a chadw'r gweithfeydd a restrwyd, mewn cysylltiad â hwy neu o ganlyniad iddynt, sef—

a

glanfeydd neu angorfeydd neu unrhyw ddull arall o gadw cychod, boed yn rhai parhaol neu'n rhai dros dro, wrth adeiladu neu wrth gynnal a chadw'r gweithfeydd a restrwyd;

b

bwiau, goleuadau, clustogau ac unrhyw rybudd mordwyol arall neu weithfeydd i osgoi gwrthdrawiadau â llongau;

c

gweithfeydd i newid safleoedd cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, draeniau a cheblau;

ch

gweithfeydd i newid llwybr neu ymyrryd fel arall ag afonydd, nentydd neu gyrsiau dŵr anfordwyadwy;

d

tirweddu a gweithfeydd eraill i leddfu unrhyw effeithiau niweidiol gwaith adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu'r gweithfeydd awdurdodedig;

dd

gweithfeydd er budd neu er mwyn diogelu tir yr effeithir arno gan y gweithfeydd awdurdodedig;

e

un neu fwy o fastiau anemometreg ychwanegol;

f

y gweithfeydd, cyfarpar a'r peiriannau eraill hynny o ba natur bynnag a allant fod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

Y pŵer i wyro4

1

Wrth adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw weithfeydd a restrwyd, caiff yr ymgymerwr wyro—

a

yn llorweddol o'r llinellau neu'r safleoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd o fewn terfynau'r gwyro ac, yn benodol, caiff y ceblau rhyngdyrbinau gysylltu, o fewn terfynau'r gwyro, ag unrhyw un o'r tyrbinau gwynt; a

b

yn fertigol o'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau mewn perthynas â—

i

uchder tyrrau'r tyrbinau gwynt i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 24 metr tuag i lawr (yn ddarostyngedig i baragraff (2));

ii

dyfnder seiliau'r tyrbinau gwynt yng ngwely'r môr i unrhyw raddau tuag i fyny ac i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 20 metr tuag i lawr;

iii

y ceblau a geir yn Ngwaith Rhif 1 a 2 i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny nac i lawr (yn ddarostyngedig i baragraff (3));

iv

Gwaith Rhif 2A, i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny nac i lawr;

v

Gwaith Rhif 3 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 2 metr tuag i fyny nac i lawr;

vi

unrhyw linell drydan uwchben a geir yng Ngwaith Rhif 4 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 10 metr tuag i fyny neu 3 metr tuag i lawr;

vii

unrhyw linell drydan danddaearol a geir yng Ngwaith Rhif 4 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 5 metr tuag i fyny neu 12 metr tuag i lawr; ac

viii

Gwaith Rhif 5 i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny na thuag i lawr.

2

Rhaid bod pellter o 25 metr o leiaf rhwng pwynt isaf llafnau'r tyrbinau gwynt sy'n cylchdroi a lefel y dŵr uchel.

3

Yn ddarostyngedig i amrywiad felly y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno nad yw'n bwysig, rhaid gosod y ceblau a geir yng Ngweithfeydd Rhif 1 a 2 i ddyfnder heb fod yn llai na 1.5 metr yn is na lefel gwely'r môr.

Strydoedd

Y pŵer i wneud gwaith stryd5

1

At ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr fynd ar gymaint o unrhyw stryd a bennir yng ngholofnau (1) a'r (2) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau'r gwyro, a chaiff—

a

rhoi cyfarpar yn y stryd honno;

b

cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd honno neu newid safle'r cyfarpar hwnnw;

c

gwella wyneb Heol Caer Bont rhwng pwyntiau A ac F a ddangosir ar blan y gweithfeydd at ddibenion darparu mynedfa er mwyn adeiladu a chynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig; ac

ch

gwneud unrhyw waith sydd ei angen ar y gweithfeydd awdurdodedig neu sy'n gysylltiedig â hwy, neu sydd ei angen ar unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) (yn benodol, gan gynnwys torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnel oddi tani, neu durio neu dyllu o dan y stryd) neu sy'n gysylltiedig â hwy.

2

Yn yr erthygl hon, mae i “cyfarpar” yr un ystyr ag sydd i “apparatus” yn Rhan III o'r Ddeddf Gwaith Stryd.

Cau strydoedd dros dro6

1

Yn ystod ac at ddibenion gweithredu'r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr gau dros dro y strydoedd a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau a bennir drwy gyfeirio at y llythrennau yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno, a chaiff am unrhyw gyfnod rhesymol—

a

gwyro'r traffig o'r stryd; a

b

yn ddarostyngedig i baragraff (2), gwahardd pob person rhag pasio ar hyd y stryd.

2

Ar bob adeg, rhaid i'r ymgymerwr roi mynediad rhesymol i gerddwyr sy'n mynd i neu'n dod o fangreoedd sy'n ffinio â stryd yr effeithir arni gan arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, os nad oes mynediad i'r mangreoedd hynny fel arall.

3

Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer pwerau'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw stryd a bennir fel a grybwyllir ym mharagraff (1) heb ymgynghori â'r awdurdod stryd yn gyntaf.

4

Mae darpariaethau'r Ddeddf Gwaith Stryd a grybwyllir ym mharagraff (5) ynghyd ag unrhyw reoliadau a wneir, neu god ymarfer a gyhoeddir neu a gymeradwyir, o dan y darpariaethau hynny yn gymwys (gyda'r addasiadau angenrheidiol) mewn perthynas â chau, addasu neu wyro stryd gan yr ymgymerwr o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon lle nad oes gwaith stryd yn mynd rhagddo yn y stryd honno fel y byddent yn gymwys pe bai'r cau, yr addasu neu'r gwyro oherwydd gwaith stryd a wneir yn y stryd honno gan yr ymgymerwr.

5

Dyma ddarpariaethau'r Ddeddf Gwaith Stryd y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)—

a

adran 54 (hysbysiad ymlaen llaw o weithfeydd penodol);

b

adran 55 (hysbysiad o ddyddiad dechrau'r gweithfeydd);

c

adran 59 (dyletswydd gyffredinol awdurdod stryd i gydlynu gweithfeydd);

ch

adran 60 (dyletswydd gyffredinol ymgymerwyr i gydweithredu);

d

adran 69 (gweithfeydd sy'n debygol o effeithio ar gyfarpar arall yn y stryd);

dd

adran 76 (atebolrwydd am y gost o reoli'r traffig dros dro);

e

adran 77 (atebolrwydd am y gost o ddefnyddio llwybr amgen); ac

f

yr holl ddarpariaethau eraill sy'n gymwys at ddibenion y darpariaethau a grybwyllir uchod.

6

Bydd unrhyw berson sy'n gweld colled oherwydd atal dros dro hawl tramwy breifat o dan yr erthygl hon â'r hawl i gael iawndal a ddyfernir, os cyfyd anghydfod, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Y pŵer i arolygu ac archwilio tir7

1

At ddibenion y Gorchymyn hwn, caiff yr ymgymerwr—

a

arolygu neu archwilio unrhyw dir sydd o fewn terfynau'r gwyro ac a ddangosir ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

b

gwneud tyllau arbrofol yn y safleoedd hynny ar y tir y gwêl yr ymgymerwr yn dda er mwyn archwilio i natur yr haenen arwynebol a'r isbridd a thynnu samplau o'r pridd, a hynny heb ragfarn i natur gyffredinol is-baragraff (a);

c

rhoi ar dir, gadael ar dir a thynnu oddi ar dir y cyfarpar sydd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac archwilio'r tir a gwneud tyllau arbrofol; ac

ch

mynd ar y tir at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (c).

2

Ni chaniateir mynediad i unrhyw dir, na rhoi na gadael cyfarpar ar y tir na'i dynnu oddi yno o dan baragraff (1), oni roddwyd o leiaf 7 niwrnod o hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd y tir.

3

O ran unrhyw berson sy'n mynd ar dir ar ran yr ymgymerwr o dan yr erthygl hon—

a

cyn neu ar ôl iddo fynd ar y tir, rhaid iddo gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdod i wneud hynny, os gofynnir am hynny; a

b

caiff ddefnyddio'r cerbydau a'r cyfarpar hynny sy'n angenrheidiol i gynnal yr arolwg neu'r archwiliad, neu i wneud y tyllau arbrofol.

4

Nid yw'r erthygl hon yn caniatáu gwneud unrhyw dyllau arbrofol mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod stryd, ond ni chaniateir gwrthod rhoi cydsyniad os yw'n afresymol gwneud hynny.

5

Rhaid i'r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir am unrhyw ddifrod a achosir drwy arfer y pwerau a geir yn yr erthygl hon; ac, os cyfyd anghydfod, rhaid dyfarnu ar yr iawndal yn unol â Rhan I o Ddeddf 1961.

Diogelu mordwyo a thraffig awyr, a rheoli sŵn

Gweithfeydd llanw'r môr na ddylid eu gweithredu heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol8

1

Ni chaniateir adeiladu nac addasu gweithfeydd llanw'r môr, ac eithrio yn unol â chynlluniau a trawsluniau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, a hynny cyn i'r gweithfeydd ddechrau.

2

Os caiff gweithfeydd llanw'r môr eu hadeiladu neu eu haddasu yn groes i'r erthygl hon neu yn groes i unrhyw amod neu gyfyngiad a osodir gan yr erthygl hon—

a

caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hysbysu'r ymgymerwr yn ysgrifenedig ei fod yn ofynnol iddo dynnu gweithfeydd llanw'r môr neu unrhyw ran ohonynt oddi ar y safle, a hynny ar draul yr ymgymerwr, gan adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol; a

b

os gwêl yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn angenrheidiol iddo wneud hynny ar frys, caiff dynnu gweithfeydd llanw'r môr neu unrhyw ran ohonynt oddi ar y safle, gan adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol;

a chaniateir adennill unrhyw wariant a dynnir gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

Darparu yn erbyn peryglon i fordwyo9

Os digwydd niwed, difrod neu ddadfeilio i weithfeydd llanw'r môr, neu unrhyw ran ohonynt, rhaid i'r ymgymerwr hysbysu Trinity House ohono cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a gosod y bwiau hynny, dangos y goleuadau hynny a chymryd y camau eraill hynny er mwyn osgoi perygl i fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd.

Diddymu gweithfeydd sydd wedi'u gadael neu sydd wedi dadfeilio10

1

Pan fydd gweithfeydd llanw'r môr wedi'u gadael, neu wedi'u gadael i ddadfeilio, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hysbysu'r ymgymerwr yn ysgrifenedig ei fod yn ofynnol un ai iddo drwsio ac adfer y gweithfeydd neu unrhyw ran ohonynt, neu iddo dynnu'r gweithfeydd oddi yno ac adfer y safle i'w gyflwr blaenorol, a hynny ar ei draul ei hunan ac i'r graddau ac o fewn y terfynau hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu pennu yn yr hysbysiad.

2

Os bydd gweithfeydd sydd yn rhannol yn weithfeydd llanw'r môr ac yn rhannol yn weithfeydd ar dir neu dros dir uwchben lefel y dŵr uchel wedi'u gadael, neu wedi'u gadael i ddadfeilio, a bod rhan honno o'r gweithfeydd sydd ar y tir neu dros dir yn y fath gyflwr fel ei bod yn amharu, neu'n achosi pryder rhesymol y gallai amharu ar yr hawl i fordwyo neu ar unrhyw hawliau cyhoeddus eraill o ran y blaendraeth, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gynnwys y rhan honno o'r gweithfeydd, neu unrhyw ran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl hon.

3

Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddadgomisiynu'r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â phlan dadgomisiynu a gytunwyd gyda Chomisiynwyr Ystad y Goron neu a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan unrhyw amod a osodwyd mewn trwydded a roddwyd o dan adran 5 o Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 198510.

Arolygu gweithfeydd llanw'r môr11

1

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar unrhyw adeg y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei weld yn hwylus i wneud hynny, orchymyn cynnal arolwg ac archwiliad o weithfeydd llanw'r môr neu o'r safle arfaethedig ar gyfer adeiladu'r gweithfeydd; a chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol adennill unrhyw wariant a dynnir ganddo wrth gynnal yr arolwg a'r archwiliad hwnnw oddi wrth yr ymgymerwr.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni ddylid gorchymyn cynnal arolygiadau felly yn amlach nag unwaith y flwyddyn; a chyn gorchymyn cynnal arolwg o'r fath, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol—

a

ymgynghori â'r ymgymerwr er mwyn cadarnhau pa wybodaeth arolygu berthnasol sydd eisoes ar gael; a

b

rhoi'r cyfle i'r ymgymerwr gynnal yr arolwg ei hunan.

3

Ni fydd paragraff (2) yn gymwys mewn argyfwng.

Goleuadau parhaol, cymhorthion diogelwch wrth fordwyo a lliwiau12

1

Ar ôl i weithfeydd llanw'r môr gael eu cwblhau, rhaid i'r ymgymerwr arddangos y goleuadau hynny, os cyfarwyddir felly, bob nos, o'r machlud hyd y wawr, a rhaid iddo gymryd y camau eraill hynny i osgoi perygl i fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd.

2

Bob nos, o'r machlud hyd y wawr, rhaid i'r ymgymerwr arddangos goleuadau i osgoi perygl i awyrennau, a'r rheini o'r un siâp, lliw a chymeriad ac a gyfarwyddir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

3

Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo fel arall, rhaid i'r ymgymerwr sicrhau bod pob nasél a llafn, a faint bynnag o unrhyw dyrbin gwynt sydd uwchlaw'r lefel y mae Trinity House yn cyfarwyddo ei baentio am resymau diogelwch wrth fordwyo, wedi'u paentio'n llwyd golau.

Goleuadau ar weithfeydd llanw'r môr yn ystod gwaith adeiladu13

Rhaid i'r ymgymerwr arddangos y goleuadau hynny, os cyfarwyddir felly, a chymryd y camau eraill hynny er mwyn osgoi perygl wrth fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd, a gwneud hynny yn agos at neu yng ngweithfeydd llanw'r môr, bob nos o'r machlud hyd y wawr, yn ystod yr holl gyfnod o adeiladu, addasu, ehangu, ailosod, ailddodi, ailadeiladu neu estyn y gweithfeydd.

System rheoli diogelwch weithredol14

1

Rhaid gweithredu tyrbinau gwynt yn unol â system rheoli diogelwch sy'n weithredol at y diben o leihau'r perygl o gael cychod yn taro yn erbyn y tyrrau neu lafnau'r tyrbinau gwynt sy'n cylchdroi, ac at y diben o hwyluso gweithgareddau chwilio ac achub.

2

Rhaid i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau gymeradwyo manylion y system rheoli diogelwch weithredol, ond rhaid i'r system gynnwys—

a

darpariaeth fel bod pob tyrbin gwynt wedi'i farcio ddydd a nos gan ddefnyddio systemau adnabod gweladwy clir;

b

darpariaeth o ran gweithdrefnau cyfathrebu rhwng morwyr mewn trafferth, Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r ystafell reoli ganolog ar gyfer gweithredu'r tyrbinau gwynt pan fydd cwch mewn trafferth;

c

darpariaeth o ran cau un neu fwy o'r tyrbinau gwynt ar unwaith ar gais Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau pan fyddant â'r mwyafrif o le posibl rhwng pwynt isaf y llafnau a lefel y dŵr; ac

ch

darparu ar gyfer ailbrofi'r gweithdrefnau brys ar yr adegau ac mewn modd y mae'n rhesymol i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau ofyn amdanynt.

Sŵn wrth adeiladu a gweithredu15

1

Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo fel arall yn ysgrifenedig, rhaid i'r ymgymerwr—

a

cydymffurfio â Safon Brydeinig 5228 (Rheoli Sŵn a Dirgryniadau ar Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) Rhannau 1 a 2: 1997 a Rhan 4: 1992 mewn perthynas â'r holl weithgareddau perthnasol a wneir yn ystod adeiladu, cynnal a chadw neu ddadgomisiynu'r gweithfeydd awdurdodedig; a

b

sicrhau y bydd y lefelau uchaf o sŵn a gynhyrchir gan y gweithgareddau hynny wrth arwyneb unrhyw dderbynnydd sy'n sensitif i sŵn heb fod yn uwch na—

i

lefel o 50 dB LAeq, 8 awr na lefel LAFmax o 60 dB rhwng 23.00 o'r gloch a 07.00 o'r gloch; a

ii

lefel o 75 dB LAeq, 1 awr rhwng 07.00 o'r gloch a 23.00 o'r gloch.

2

Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo fel arall yn ysgrifenedig, rhaid i'r ymgymerwr sicrhau nad yw lefel raddio'r allyriadau sŵn a gynhyrchir wrth weithredu'r tyrbinau gwynt yn uwch na 35 dB LA90, pan gânt eu mesur yn unol â'r canllawiau a geir yn “The Assessment and Rating of Noise from Wind Farms” (ETSU-R-1997), o dan amodau maes rhydd ar bwynt 1.2 metr uwchben lefel y ddaear ger unrhyw dderbynnydd sy'n sensitif i sŵn, mewn gwyntoedd o gyflymderau hyd at 10 metr yr eiliad wedi'u mesur wrth uchder o 10 metr uwchben lefel y dŵr uchel o fewn safle'r fferm wynt.

3

Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “gweithgareddau perthnasol” (“relevant activities”) yw unrhyw weithgareddau a wneir mewn ardal y tu hwnt i awdurdodaeth awdurdod lleol o dan Ran III o Ddeddf Rheoli Llygredd 197411;

  • ystyr “derbynnydd sy'n sensitif i sŵn” (“noise-sensitive receptor”) yw unrhyw annedd gyfanheddol, neu unrhyw ysbyty, ysgol neu gartref gorffwys sy'n bodoli.

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu gweithfeydd sydd mewn diffyg16

Ar ôl 30 o ddiwrnodau o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad i'r ymgymerwr o dan erthygl 8(2)(a) neu 10(1), os nad yw wedi cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, a hynny heb esgus rhesymol, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gwblhau'r gweithfeydd a bennir yn yr hysbysiad; a chaniateir adennill unrhyw wariant a dynnir gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

Tramgwyddau17

Os yw'r ymgymerwr, heb esgus rhesymol, yn methu â—

a

cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan erthygl 9, 12(1) neu (2) neu 13;

b

cydymffurfio â gofynion erthygl 12(3) neu 15;

c

hysbysu fel sy'n ofynnol gan erthygl 9; neu

ch

gweithredu'r tyrbinau gwynt yn unol ag erthygl 14,

bydd yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.