RHAN IIGWEITHFEYDD
Pwerau atodol
Y pŵer i arolygu ac archwilio tir7
1
At ddibenion y Gorchymyn hwn, caiff yr ymgymerwr—
a
arolygu neu archwilio unrhyw dir sydd o fewn terfynau'r gwyro ac a ddangosir ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;
b
gwneud tyllau arbrofol yn y safleoedd hynny ar y tir y gwêl yr ymgymerwr yn dda er mwyn archwilio i natur yr haenen arwynebol a'r isbridd a thynnu samplau o'r pridd, a hynny heb ragfarn i natur gyffredinol is-baragraff (a);
c
rhoi ar dir, gadael ar dir a thynnu oddi ar dir y cyfarpar sydd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac archwilio'r tir a gwneud tyllau arbrofol; ac
ch
mynd ar y tir at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (c).
2
Ni chaniateir mynediad i unrhyw dir, na rhoi na gadael cyfarpar ar y tir na'i dynnu oddi yno o dan baragraff (1), oni roddwyd o leiaf 7 niwrnod o hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd y tir.
3
O ran unrhyw berson sy'n mynd ar dir ar ran yr ymgymerwr o dan yr erthygl hon—
a
cyn neu ar ôl iddo fynd ar y tir, rhaid iddo gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdod i wneud hynny, os gofynnir am hynny; a
b
caiff ddefnyddio'r cerbydau a'r cyfarpar hynny sy'n angenrheidiol i gynnal yr arolwg neu'r archwiliad, neu i wneud y tyllau arbrofol.
4
Nid yw'r erthygl hon yn caniatáu gwneud unrhyw dyllau arbrofol mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod stryd, ond ni chaniateir gwrthod rhoi cydsyniad os yw'n afresymol gwneud hynny.
5
Rhaid i'r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir am unrhyw ddifrod a achosir drwy arfer y pwerau a geir yn yr erthygl hon; ac, os cyfyd anghydfod, rhaid dyfarnu ar yr iawndal yn unol â Rhan I o Ddeddf 1961.