Search Legislation

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2004

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb 2003/89/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2000/13/EC o ran dangos pa gynhwysion sy'n bresennol mewn bwydydd.

2.  Yn achos bwyd sy'n cynnwys unrhyw gynhwysyn alergenig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(a) ac yn yr Atodlen) neu gynhwysyn sy'n dod o gynhwysyn alergenig y cyfeirir ato ym mharagraffau 1 i 11 o'r Atodlen, mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod y bwyd yn cael ei farcio â chyfeiriad clir at enw'r cynhwysyn alergenig dan sylw neu fod arno label yn dwyn cyfeiriad clir at enw'r cynhwysyn alergenig dan sylw (rheoliadau 12 a'r 14). Mae esemptiadau yn achos bwyd nad yw wedi'i ragbecynnu, bwyd sydd wedi'i ragbecynnu i'w werthu'n uniongyrchol a chynhyrchion cyffaith ffansi (rheoliadau 10 ac 11).

3.  Yn rhinwedd Erthygl 13(4) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29) ar gyd-ddynesiad deddfau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, mae pecynnau bach a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy yn esempt rhag gofynion Cyfarwyddeb 2003/89/EC bod labeli ac arnynt enwau alergenau yn cael eu rhoi ar fwydydd. Mae'r Rheoliadau'n ymestyn y gofynion bod labeli ac arnynt enwau alergenau yn cael eu rhoi ar fwydydd i gynnwys y pecynnau a'r poteli hynny ac yn gwneud y camau hynny'n gamau cenedlaethol (yn unol â'r cyfeiriad yn rheoliad 26 o'r prif Reoliadau a rheoliadau 4 a 12 o'r Rheoliadau hyn). Yn unol â hynny, hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o destun drafft y Rheoliadau o dan Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.98, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau ac ar gyfer rheolau ar wasanaethau Cymdeithas Wybodaeth, fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18).

4.  Hefyd wrth weithredu Cyfarwyddeb 2003/89/EC, tra bo'r Rheoliadau'n darparu esemptiad cyfyngedig ar gyfer rhai cynhwysion cyfansawdd sy'n llai na 2 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, yn achos cynhwysion cynhwysyn cyfansawdd sydd yn llai na 25 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, maent yn dileu'r esemptiad blaenorol rhag rhestru'r cynhwysion (rheoliad 7(b) a (c)). Mae'r Rheoliadau'n gwneud rhai newidiadau eraill i'r rheolau manwl ynghylch trefn rhestru cynhwysion (rheoliad 5) ac yn ychwanegu cynhwysyn arall at y rhai nad oes angen eu henwi (rheoliad 8(b)). Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 3(b), 6, 7(a), 8(a), 9 a 15) ac yn cynnwys darpariaeth drosiannol (rheoliad 13).

5.  Paratowyd arfarniad rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/89/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources