- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, ac mae'n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 (“Gorchymyn 1992”), Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 a Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992.
Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio annedd at ddibenion darpariaethau'r dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy'n cynnwys mwy nag un uned hunan gynwysedig fel pe bai wedi'i ffurfio o'r un nifer o anheddau â'r nifer o unedau hunan gynwysedig yn yr eiddo hwnnw. Diffinir eiddo sengl yng Ngorchymyn 1992 yn eiddo a fyddai, ar wahân i'r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr “one dwelling” yn adran 3 o Ddeddf 1992.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3A newydd yng Ngorchymyn 1992. Bydd hynny'n sicrhau bod cartref gofal (o fewn ystyr “care home” yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac y mae person wedi'i gofrestru ar ei gyfer yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno), yn lle cael ei drin, at ddibenion y dreth gyngor, fel pe bai wedi'i ffurfio o anheddau ar wahân o fewn annedd, yn unol â nifer yr unedau hunan gynwysedig, yn cael ei drin fel nifer yr anheddau a geir wrth ychwanegu un at nifer yr unedau hunan gynwysedig a ddarperir i letya'r person a gofrestrwyd ar gyfer y cartref gofal.
Mae adran 4 o Ddeddf 1992 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i ragnodi drwy orchymyn ddosbarthiadau ar anheddau nad yw'r dreth gyngor yn daladwy ar eu cyfer. Mae Dosbarth I yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn esemptio rhag talu'r dreth gyngor annedd sydd heb ei meddiannu ac y mae ei pherchennog neu ei thenant bellach â'i unig neu ei brif breswylfa mewn man arall “not being a hospital, residential care home, nursing home, mental nursing home or hostel within the meaning of paragraphs 6, 7 or 8 of Schedule 1” i Ddeddf 1992, at y diben o dderbyn gofal personol y mae ei angen ar y perchennog neu'r tenant am rai resymau penodedig.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi geiriad newydd ar gyfer Dosbarth I, sy'n cynnwys cyfeiriad at lety a ddarperir gan wasanaeth gofal cartref yn yr Alban.
Mae adran 11 o Ddeddf 1992 ac Atodlen 1 iddi yn darparu y caiff disgrifiadau o bobl sy'n preswylio mewn annedd eu diystyru wrth benderfynu a yw'n gymwys rhoi gostyngiad ar swm y dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas â'r annedd. Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu y caiff person ei ddiystyru os hostel yw ei unig neu ei brif breswylfa. Mae paragraff 7(2) yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiffinio hostel drwy Orchymyn. Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi erthygl 6 (sy'n diffinio “hostel”) newydd yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r diffiniad bellach yn rhoi, yn lle'r cyfeiriad at adran 49(1) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973, sydd wedi'i diddymu, gyfeiriad at adran 9(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: