- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992(2), yn lle Dosbarth A rhodder—
(a)a care home within the meaning of the Care Standards Act 2000(3), in respect of which a person is registered in accordance with Part 2 of that Act;
(b)a building or part of a building in which residential accommodation is provided under section 21 of the National Assistance Act 1948(4)); or
(c)a hostel within the meaning given by paragraph 7 of Schedule 1(5) to the Act.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 8(1) a 113(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Atebolrwydd Perchenogion) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi'r dosbarthau ar o anheddau y mae'r perchennog ac nid y meddiannydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor mewn perthynas â hwy. Darparodd Dosbarth A yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hynny mai'r perchennog fyddai'n atebol am dalu'r dreth gyngor ar gyfer cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio meddyliol neu hostel o fewn ystyron “residential care home, nursing home, mental nursing home” a “hostel”, yn eu trefn, a roddwyd gan baragraph 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.
Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”), drwy roi cyfeiriadau at “care home” ac “independent hospital” yn lle'r termau blaenorol “residential care home”, “nursing home” a “mental nursing home”. Mae erthygl 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi Dosbarth A newydd yn Rheoliadau 1992 yn lle'r Dosbarth A presennol. Mae'r Dosbarth A newydd yn cyfeirio at gartrefi gofal o fewn yr ystyr sydd i “care home” yn Neddf 2000, y mae person wedi ei gofrestru mewn perthynas ag ef yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno, at adeiladau neu rannau o adeiladau lle y darperir llety preswyl o dan adran 21 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac at hostelau o fewn yr ystyr sydd iddynt ym mharagraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992.
Ar gyfer cartref gofal o fewn yr ystyr sydd i “care home” yn Neddf 2000, pan fydd person wedi cofrestru mewn perthynas â'r cartref yn unol â Rhan 2 y Ddeddf honno, y perchennog ac nid y meddiannydd fydd yn atebol am dalu'r dreth gyngor. Pan nad oes neb wedi cofrestru felly, er y dylent fod wedi gwneud, y meddianwyr ac nid y perchennog fydd yn parhau i fod yn atebol am dalu'r dreth gyngor.
1992 p.14. Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.
S.I. 1992/551.
Diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, gweler adran 116 a pharagraff 20 Atodlen 4 o'r Ddeddf honno. I weld y diffiniad o “hostel” gweler erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 (O.S. 1992/548) fel ag y'i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taliadwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2921 (Cy. 260)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: