Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2919 (Cy.258)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi a Chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2004.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniad perthnasol a wneir mewn perthynas â ffermwr sydd â'i ddaliad wedi'i leoli, naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yng Nghymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “daliad” yr un ystyr ag sydd i “holding” yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “Deddfwriaeth y Gymuned” (“the Community legislation”) yw Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso rhai cynlluniau cefnogi a ddarperir ar eu cyfer yn Nheitl IV o Reoliad y Cyngor (3), Rheoliad y Comisiwn (EC) 795/2004 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu y cynllun taliad sengl a ddisgrifir yn Rheoliad y Cyngor (4) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cyd-gydymffurfiaeth, modiwleiddio a'r system weinyddu a rheoli cyfunol a ddarperi ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor (5);

mae i “ffermwr” yr un ystyr ag sydd i “farmer” yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;

ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant determination”) yw unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol a wneir mewn perthynas â ffermwr yn unol â, neu mewn cysylltiad â deddfwriaeth y Gymuned;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003, sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr (6))

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hynny fel ei ddiwygir ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.

Darparu gweithdrefn apelio

4.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn sydd, ar gais ffermwr, i'w chymhwyso er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.

(2Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiad cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ystyried yn angenrheidiol at ddibenion ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo, ddogfennau a gwybodaeth berthnasol a rhybudd o fwriad ef neu hi i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.

(3Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio'n ysgrifenedig neu ar lafar i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n derfynol ar yr apêl.

(4Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff—

(a)talu i'r personau a benodir unrhyw dâl rhesymol am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill y bydd yn penderfynu arnynt; a

(b)codi ar unrhyw ffermwr, yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd, unrhyw dâl y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu (heb fod yn fwy na £100), mewn perthynas ag unrhyw gostau a dynnwyd ganddo wrth roi'r weithdrefn ar waith o ran yr apêl dan sylw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i sefydlu gweithdrefn apelio ar gyfer ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadiau o ran sut y mae'n gweinyddu Cynllun y Taliad Sengl ac amrywiol gynlluniau cymorth penodol eraill (sef yn benodol y Cynlluniau rheini sydd yn ymwneud â premiwm cnydau protein, y taliad arwynebedd am gnau, cymorth cnydau ynni, cymorth am datws starts, y premiwm godro (a thaliadau ychwanegol) a chymorth cynhyrchu hadau.

Cyflwynir ac fe weithredir y cynlluniau yma gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. L270, 21.10.2003, t.1), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 (O.J. Rhif L339, 24.12.2003, t.52), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.18).

Caiff unrhyw weithdrefn apelio a sefydlir yn unol â'r rheoliadau yma fod yn ffurf unai cyflwyniad ar lafar neu yn ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad i'r personau hynny argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol sut y dylai benderfynu'n derfynol ar y mater.

Mae'r Rheoliadau yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu tâl a lwfansau i unrhyw bersonau a benodir felly, ac i godi tâl (nad sydd yn fwy na £100) yn sgîl costau'r weithdrefn.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o hwnnw gan Adran Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(3)

OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.52.

(4)

OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.1.

(5)

OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.18.

(6)

OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. L161, 30.04.2004, t.48).