Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2914 (Cy.253)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

10 Tachwedd 2004

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 10 Tachwedd 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999(2) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) —

(a)ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “to achieve the core subject indicator” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”;

(b)yn y diffiniad o “level 4” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”; ac

(c)mewnosoder ar ôl y diffiniad o “second key stage pupils” y canlynol —

“eacher assessments” means the assessments of pupils carried out by teachers for the purpose of determining the level of attainment they have achieved in English, Welsh, science or mathematics, and for which assessments provision is made by or under orders made under section 108(3)(c ) of the Education Act 2002(3) in force when the assessments are carried out;.

(3Yn rheoliad 4 —

(a)ym mharagraff (2) yn lle “NC tests” rhodder y geiriau “teacher assessments” ac yn lle “tests are administered” rhodder y geiriau “assessments are carried out”; a

(b)ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn lle “NC tests to be administered” rhodder y geiriau “teacher assessments to be carried out”.

(4Yn rheoliad 9(3)(a)(i) yn lle “NC tests” rhodder “teacher assessments”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999

3.—(1Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn —

(a)ym mharagraff 16, yn lle is-baragraff (1) rhodder y canlynol —

(1) Subject to paragraph (3), the information specified in Parts 1 and 2 of Schedule 2 to the Education (School Performance Information) (Wales) Regulations 2004(5); a

(b)hepgorer paragraff 19(6).

(2Nid yw'r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1)(b) i'w gymhwyso i wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn ystod blwyddyn cyhoeddi'r ysgol 2004-05 mewn perthynas â blwyddyn adrodd yr ysgol 2003-04.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004

4.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(6)) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) o flaen y diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “asesiad athrawon” (“teacher assessments”) yw asesiadau o ddisgyblion a gyflawnir gan athrawon yn unol â'r asesiadau statudol;.

(3Yn rheoliad 11 —

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “yr ail a thrydydd” rhodder y geiriau “y trydydd” a hepgorer y geiriau “wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 3 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, a'r”; a

(b)ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ym mlwyddyn adrodd yr ysgol” rhodder y geiriau “â disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol”.

(4Yn Atodlen 3—

(a)hepgorer paragraff 1(2)(a);

(b)hepgorer paragraff 3 a'i bennawd;

(c)yn y pennawd i baragraff 5 yn lle'r geiriau “yr Ail a Thrydydd” rhodder “y Trydydd; a

(ch)ym mharagraff 5 yn lle'r geiriau “yr ail a thrydyddd” rhodder “y trydydd”.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004

5.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(7) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7(10)(b) a (11) yn lle'r geiriau “yr ail neu'r trydydd” rhodder “y trydydd”.

(3Ym mharagraff 2 o Atodlen 3 —

(a)yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol”; a

(b)hepgorer is-baragraffau (5) a (6).

(4Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 4, mewnosoder ar ôl y gair “ddangoswyd” y geiriau “, yn achos disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, fel y penderfynwyd arnynt gan asesiad athrawon, ac yn achos disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol,”.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio amrywiol reoliadau o ganlyniad i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol 2. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar eu lefelau cyrhaeddiad drwy asesiadau athrawon. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau athrawon yn lle'r cyfeiriadau at y profion hyn ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill yn y Rheoliadau canlynol — Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

(3)

2002 p.32. Y gorchymyn perthnasol ar gyfer yr ail gyfnod allweddol ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004, O.S. 2004/2915 (Cy.254).

(4)

O.S. 1999/1812 fel y'i diwygiwyd gan 2001/111, 2001/3710, 2002/1400.