2004 Rhif 2914 (Cy.253)
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 20021.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 10 Tachwedd 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 19992
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 19992 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3(1) —
a
ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “to achieve the core subject indicator” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”;
b
yn y diffiniad o “level 4” yn lle'r geiriau “NC tests” rhodder “teacher assessments”; ac
c
mewnosoder ar ôl y diffiniad o “second key stage pupils” y canlynol —
“eacher assessments” means the assessments of pupils carried out by teachers for the purpose of determining the level of attainment they have achieved in English, Welsh, science or mathematics, and for which assessments provision is made by or under orders made under section 108(3)(c ) of the Education Act 20023 in force when the assessments are carried out;
3
Yn rheoliad 4 —
a
ym mharagraff (2) yn lle “NC tests” rhodder y geiriau “teacher assessments” ac yn lle “tests are administered” rhodder y geiriau “assessments are carried out”; a
b
ym mharagraff (3), ym mhob un o is-baragraffau (a), (b) ac (c) yn lle “NC tests to be administered” rhodder y geiriau “teacher assessments to be carried out”.
4
Yn rheoliad 9(3)(a)(i) yn lle “NC tests” rhodder “teacher assessments”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 19993
1
Diwygir Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 19994 fel a ganlyn —
a
ym mharagraff 16, yn lle is-baragraff (1) rhodder y canlynol —
1
Subject to paragraph (3), the information specified in Parts 1 and 2 of Schedule 2 to the Education (School Performance Information) (Wales) Regulations 20045
b
hepgorer paragraff 19(6).
2
Nid yw'r diwygiad a wnaed gan is-baragraff (1)(b) i'w gymhwyso i wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn ystod blwyddyn cyhoeddi'r ysgol 2004-05 mewn perthynas â blwyddyn adrodd yr ysgol 2003-04.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 20044
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 20046) fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1) o flaen y diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder y diffiniad canlynol—
ystyr “asesiad athrawon” (“teacher assessments”) yw asesiadau o ddisgyblion a gyflawnir gan athrawon yn unol â'r asesiadau statudol;
3
Yn rheoliad 11 —
a
ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “yr ail a thrydydd” rhodder y geiriau “y trydydd” a hepgorer y geiriau “wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 3 o Atodlen 3 mewn perthynas â disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, a'r”; a
b
ym mharagraff (2) ar ôl y geiriau “ym mlwyddyn adrodd yr ysgol” rhodder y geiriau “â disgyblion cofrestredig yn y trydydd cyfnod allweddol”.
4
Yn Atodlen 3—
a
hepgorer paragraff 1(2)(a);
b
hepgorer paragraff 3 a'i bennawd;
c
yn y pennawd i baragraff 5 yn lle'r geiriau “yr Ail a Thrydydd” rhodder “y Trydydd; a
ch
ym mharagraff 5 yn lle'r geiriau “yr ail a thrydyddd” rhodder “y trydydd”.
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 20045
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 20047 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 7(10)(b) a (11) yn lle'r geiriau “yr ail neu'r trydydd” rhodder “y trydydd”.
3
Ym mharagraff 2 o Atodlen 3 —
a
yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “a (lle bo'n gymwys) gan brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol a thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol”; a
b
hepgorer is-baragraffau (5) a (6).
4
Ym mharagraff 2(2) o Atodlen 4, mewnosoder ar ôl y gair “ddangoswyd” y geiriau “, yn achos disgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, fel y penderfynwyd arnynt gan asesiad athrawon, ac yn achos disgyblion yn y trydydd cyfnod allweddol,”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)