2004 Rhif 2878 (Cy.248)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (6) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 19701 sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dynodi corff cyhoeddus2

Mae PBS 2003 Limited3, gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.

Cyfyngiadau ar gytundebau — PBS 2003 Limited3

Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn—

a

rhaid bod unrhyw gytundeb felly ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd, neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a

b

rhaid bod unrhyw gytundeb felly wedi'i wneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (“Deddf 1970”) yn nodi at ba ddibenion y caiff Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru (ymhlith eraill) ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus ynghylch cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan y Cyngor hwnnw.

O dan adran 1(5) o Ddeddf 1970, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion Deddf 1970, y pŵer i bennu yn gorff cyhoeddus berson neu ddisgrifiad o bersonau yr ymddengys iddo eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dynodi PBS 2003 Limited yn gorff cyhoeddus o dan adran 1(5) o Ddeddf 1970.

Yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ceir cyfyngiadau ar y cytundebau y caniateir ymrwymo iddynt.

Effaith y dynodiad hwnnw yw caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddarparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd (neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny) i PBS 2003 Limited drwy gytundeb sydd at unrhyw ddiben a ragnodir gan adran 1(1) o Ddeddf 1970.