2004 Rhif 2747 (Cy.245)
Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, ac yntau wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721, dyddiedig Rhagfyr 2003, ynghylch adolygiad Cyngor Sir Powys o'r ffin rhwng Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach yn Sir Powys, ynghyd â'r cynigion a ffurfiwyd gan y Comisiwn;
A Chynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi penderfynu gwneud y cynigion yn effeithiol heb eu haddasu;
A chan fod mwy na chwech wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
Yn awr, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 19992, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a Chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ag eithrio bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004 at y dibenion a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau 1976.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd3.
Newid i ardal gymunedol a newid canlyniadol i adran etholiadol3
Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o gymuned Aberhonddu (Ward y Santes Fair) sy'n ffurfio adran etholiadol y Santes Fair, a chymuned Llanfrynach sy'n ffurfio rhan o adran etholiadol Tal-y-bont ar Wysg, fel y mae wedi'i marcio ar y map ffiniau fel “Ffin Gymunedol Newydd”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau, gan gynnwys yr eiddo a elwir “White House”, i'w chynnwys yng Nghymuned Llanfrynach yn lle yng Nghymuned Aberhonddu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)