- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, fewnforio tatws i Gymru y mae'r person hwnnw'n gwybod eu bod, neu y mae ganddo sail resymol dros amau eu bod, yn datws o wlad Pwyl, oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oedd yn bwriadu cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru, ynghylch ei fwriad i fewnforio'r tatws, ac ynghylch:
(a)amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;
(b)y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;
(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;
(d)rhywogaeth y tatws;
(dd)y maint o datws; ac
(e)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(2) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, ar ôl 30 Ebrill 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 15 Tachwedd 2004 fan bellaf ynghylch—
(a)y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;
(b)y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru;
(c)y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch)yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;
(d)rhywogaeth y tatws;
(dd)y maint o datws; ac
(e)Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “prosesu” (“processing”) yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai ar gyfer manwerthu ai peidio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: