xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLEN

RHAN IIPERSONAU PERTHNASOL

21.  Mae'r person yn rhiant i blentyn y mae gorchymyn wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn ag ef o dan —

(a)adran 31(1)(a) o'r Ddeddf (gorchymyn gofal);

(b)adran 31(1)(b) o'r Ddeddf (gorchymyn goruchwylio);

(c)adran 44(1) o'r Ddeddf (gorchymyn amddiffyn brys);

(ch)erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal); neu

(d)adran 31 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

22.  Mae un o'r gorchmynion canlynol wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn o ofal y person neu er mwyn atal y plentyn rhag byw gyda'r person —

(a)gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o'r Ddeddf;

(b)unrhyw orchymyn a fuasai wedi'i ystyried yn orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i'r Ddeddf (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) petai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym(1);

(c)gorchymyn goruchwylio a osododd ofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Trosedd (Dedfrydu) 2000(2) neu adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(3) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol);

(ch)gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)gorchymyn person ffit, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(4));

(dd)gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995;

(e)gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu

(f)gorchymyn goruchwylio sy'n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

23.  Mae gofyniad goruchwylio wedi'i osod ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal y person, o dan —

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(5); neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

24.  Mae hawliau a phwerau'r person perthnasol mewn perthynas â phlentyn wedi'u breinio ar unrhyw bryd mewn awdurdod lleol yn yr Alban —

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(6)); neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

25.  O ran y person—

(a)mae ei gofrestriad ar gyfer cartref plant wedi'i wrthod o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)mae ei gofrestriad ar gyfer cartref plant wedi'i ganslo o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000; neu

(c)mae wedi bod yn ymwneud â rheoli cartref plant, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac y mae cofrestriad unrhyw berson wedi'i ganslo ar gyfer y cartref hwnnw o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

26.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu mae'r person hwnnw wedi rhedeg cartref gwirfoddol neu gartref plant neu yr oedd fel arall yn ymwneud â'i reoli, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac mae cofrestriad y cartref hwnnw wedi'i ganslo o dan y canlynol, yn ôl y digwydd—

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i'r Ddeddf(7);

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i'r Ddeddf;

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(8); neu

(ch)erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

27.  O ran y person —

(a)mae gwaharddiad wedi'i osod arno ar unrhyw bryd o dan—

(i)adran 69 o'r Ddeddf, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(9) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958(10)) (pwer i wahardd maethu'n breifat);

(ii)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pwer i wahardd maethu'n breifat);

(iii)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pwer i wahardd cadw plant maeth)(11); neu

(iv)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd maethu'n breifat neu osod cyfyngiadau ar hynny); neu)

(b)mae wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (gwrthod cydsynio bod gofal a chynhaliaeth ar gyfer y plentyn yn cael eu rhoi gan berson).

28.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd ar gyfer darparu meithrinfeydd neu ofal dydd neu ar gyfer gwaith gwarchod plant neu mae wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd —

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(12);

(b)Rhan X o'r Ddeddf(14);

(c)Rhan XA o'r Ddeddf;

(ch)(Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd)Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(13); neu

(e)adran 65 neu adran 66 neu adran 69 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 iddi.

29.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

30.  Mae cofrestriad yn ddarparydd asiantaeth gofal plant wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

31.  Mae'r person wedi'i gynnwys ar unrhyw bryd mewn rhestr o bersonau sy'n anaddas i weithio gyda phlant o dan adran 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio (Gogledd Iwerddon) 2003 neu y mae wedi'i ddatgymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Ran 2 o'r Gorchymyn hwnnw.

(1)

Daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 14 Hydref 1991.

(3)

Diddymwyd adran 12AA gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000.

(4)

1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998.

(5)

Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(6)

Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(7)

Mae'r ddarpariaeth hon, a'r rhai a grybwyllir yn yr is-baragraff canlynol, wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a hynny'n weithredol o 1 Ebrill 2002 (O.S. 2001/3852).

(8)

Cafodd yr adran hon, a phob adran arall o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir ati isod yn yr Atodlen hon, eu diddymu gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

(9)

1980 p.86. Cafodd y Ddeddf Plant Maeth ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(10)

1958 p.65. Cafodd adran 4 ei diddymu gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(11)

1984 p.56.

(12)

1948 p.53. Cafodd y Ddeddf hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(13)

Diddymwyd Rhan X o Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a rhoddwyd Rhan XA yn ei lle.