Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

28.  Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd ar gyfer darparu meithrinfeydd neu ofal dydd neu ar gyfer gwaith gwarchod plant neu mae wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd —

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(1);

(b)Rhan X o'r Ddeddf(3);

(c)Rhan XA o'r Ddeddf;

(ch)(Rhan XI o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995;

(d)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968;

(dd)Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(2); neu

(e)adran 65 neu adran 66 neu adran 69 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu Atodlen 7 iddi.

(1)

1948 p.53. Cafodd y Ddeddf hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.

(2)

Diddymwyd Rhan X o Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a rhoddwyd Rhan XA yn ei lle.