Search Legislation

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Niferoedd disgyblion

8.—(1Wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac ysgolion meithrin, rhaid i awdurdod addysg lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r niferoedd hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8).

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys—

(a)disgyblion y mae grant yn daladwy ar eu cyfer i'r awdurdod gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 36 o Ddeddf 2000;

(b)disgyblion mewn lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu (ac eithrio pan fo'r awdurdod addysg lleol yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn o dan reoliad 10 mewn perthynas â phlant mewn dosbarthiadau meithrin) ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin.

(3Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod —

(a)cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol o dan sylw; a

(b)yn y flwyddyn ysgol y mae 1 Ebrill, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn dod ynddi.

(4Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna —

(a)rhaid i un o'r dyddiadau hynny fodloni paragraff (3);

(b)o ran y dyddiad arall neu'r dyddiadau eraill —

(i)ni chaiff unrhyw ddyddiad fod yn gynt na dechrau'r flwyddyn ysgol y mae 1 Ebrill, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn dod ynddi, a

(ii)caiff yr awdurdod benderfynu dyddiad neu ddyddiadau sydd yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny.

(5Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i ddisgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn eu cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).

(6Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformwla —

(a)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion arbennig hynny; neu

(b)nifer y disgyblion yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd,

ar unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod (a'r cyfrannau hynny wedi'u pwysoli os yw'r awdurdod yn credu ei bod yn briodol yn unol â pharagraff (8)).

(7Os yw'r awdurdod yn amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig mewn ysgol yn unol â pharagraff (4)(b), rhaid iddo ymgynghori â phennaeth yr ysgol.

(8Caiff awdurdod addysg lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol —

(a)oedran, gan gynnwys pwysoliad yn ôl cyfnod allweddol neu grŵ p blwyddyn;

(b)a yw disgybl yn cael addysg feithrin gan ysgol;

(c)yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hunion oedran wrth gael eu derbyn i'r ysgol;

(ch)yn achos disgyblion o dan bum oed, yr oriau y maent yn bresennol;

(d)anghenion addysgol arbennig;

(dd)a yw disgybl mewn ysgol hefyd yn mynychu sefydliad o fewn y sector addysg bellach; ac

(e)a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(9Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources