Search Legislation

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Canran o gyllid “sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion”

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau bod ei fformwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol —

(a)yn unol â rheoliad 8(1) neu (6);

(b)yn unol ag unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill gan ddefnyddio niferoedd disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid i ddisgyblion o'r un oedran ni waeth beth fo natur yr ysgol y maent yn mynd iddi;

(c)i leoedd mewn ysgolion cynradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin;

(ch)ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5 y cant yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol;

(d)i leoedd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(dd)ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan fo cyllid ar gyfer disgyblion o'r fath yn ffurfio rhan o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol yr awdurdod addysg lleol, gyfrannau cyllideb ysgolion sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, cyfrannau cyllideb ysgolion arbennig nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y dalwyd gafael arni yn unol â rheoliad 5(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources