- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol o dan sylw;
ystyr “blwyddyn ariannol o dan sylw” (“financial year in question”) yw'r flwyddyn ariannol y mae cyfrannau cyllideb ysgolion a gynhelir yn cael eu penderfynu ar eu cyfer;
ystyr “y Cyngor Cenedlaethol” (“the National Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant(1);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2));
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(3);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(4);
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg amser-llawn neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(5);
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(6));
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.
(5) Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).
(6) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at wahardd disgybl yn barhaol yn gyfeiriad at waharddiad parhaol y disgybl fel y'i diffinnir o dro i dro at ddibenion adran 494 o Ddeddf 1996(7).
(7) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i'r geiriau neu'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a nodir isod yn y paragraff hwn yr ystyron a roddwyd iddynt gan y darpariaethau a bennir —
addysg feithrin (nursery education):
adran 117 o Ddeddf 1998;
anghenion addysgol arbennig (special educational needs):
adran 312(1) o Ddeddf 1996;
blwyddyn ariannol (financial year):
adran 579(1) o Ddeddf 1996;
blwyddyn ysgol (school year):
adran 579(1) o Ddeddf 1996(8);
cyfnod allweddol (key stage):
adran 103 o Ddeddf 2002;
cyfran o'r gyllideb (budget share):
adran 47 (1) o Ddeddf 1998;
cyllideb ddirprwyedig (delegated budget):
adran 49(7) o Ddeddf 1998;
cyllideb ysgolion (schools budget):
adran 45A(2) o Ddeddf 1998;
cyllideb ysgolion unigol (individual schools budget):
adran 45A(3) o Ddeddf 1998(9);
fformwla (formula):
rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn;
ysgol feithrin (nursery school):
adran 6(1) o Ddeddf 1996(10).
(8) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn a rifwyd felly ac mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff a rifwyd felly yn y rheoliad neu'r Atodlen lle mae'r cyfeiriad yn ymddangos.
Sefydlwyd y Cyngor Cenedlaethol gan adran 30 o Ddeddf 2000.
O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911 (Cy.40), 2001/495 (Cy. 22), 2002/136 (Cy.19) a 2003/538 (Cy.75).
Amnewidiwyd adran 494 gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 43.
Mewnosodwyd adran 45A gan adran 41(1) o Ddeddf 2002 (O.S. 2003/2961 (Cy. 278)).
Diwygiwyd adran 6(1) gan adran 156(1) o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: