- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
19.—(1) Pan fo disgybl, yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran cyllideb yr ysgol am y flwyddyn ariannol honno yn unol â pharagraff (2).
(2) Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w gostwng â'r swm A x (B/52) ac —
A yw'r swm, yn y flwyddyn ariannol y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddi (fel y'i diffinnir o bryd i'w gilydd at ddibenion adran 494 o Ddeddf 1996(1) (“y dyddiad perthnasol”)), a benderfynwyd gan yr awdurdod, yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac sydd i'w briodoli am y flwyddyn ariannol lawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod:
At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformwla'r awdurdod neu reoliad 22 drwy ystyried niferoedd disgyblion yn hytrach na nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor neu faen prawf arall nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a
B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:
OND os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵ p oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.
(3) Pan fo disgybl yn cael ei dderbyn yn ystod blwyddyn ariannol i ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (“yr ysgol sy'n derbyn”) a bod y disgybl hwnnw wedi'i wahardd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir yn y flwyddyn ariannol honno rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).
(4) Mae cyfran cyllideb yr ysgol i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D x (E/F) a —
D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran cyllideb yr ysgol y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu'r swm y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;
E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ariannol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;
F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y flwyddyn ariannol o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.
Amnewidiwyd adran 494 gan baragraff 128 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y Rheoliadau perthnasol yw Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999, O.S. 1999/495, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, O.S. 2003/3227 (Cy.308).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: