Search Legislation

Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Ailbenderfynu cyfrannau cyllideb

18.—(1Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei alluogi i ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol yn ystod blwyddyn ariannol os yw'n dymuno cymryd i ystyriaeth yn y modd hwn (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) —

(a)newidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn nifer y disgyblion cofrestredig neu mewn amcangyfrifon o'r nifer (gan gynnwys rhoi niferoedd gwirioneddol yn lle amcangyfrifon) yn yr ysgol a ddefnyddiwyd i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol yn unol â rheoliad 8(1) neu (3) ac eithrio mewn achosion lle cafodd niferoedd disgyblion eu pwysoli yn ôl anghenion addysgol arbennig;

(b)newidiadau eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn y data a ddefnyddiwyd i benderfynu'r gyfran o'r gyllideb; ac

(c)newidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol honno yn swm cyllideb ysgolion unigol yr awdurdod.

(2Rhaid i awdurdod addysg lleol nodi yn ei fformwla y ffactorau neu'r meini prawf y bydd yn eu defnyddio i ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion yn unol â pharagraff (1) er mwyn dyrannu'r gwariant cynlluniedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 30 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003(1).

(3Rhaid i awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla i'w alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu neu ailbenderfynu cyfran cyllideb ysgol pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol —

(a)unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol yn unol â rheoliad 19 (Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad); neu

(b)unrhyw gynnydd yng nghyfran cyllideb yr ysgol o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chynnydd sylweddol yn niferoedd y disgyblion sy'n cael eu cyllido drwy'r gwariant cynlluniedig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 30 o Atodlen 2 i Reoliadau 2003.

(4Pan fo awdurdod addysg lleol yn bwriadu dal ei afael ar ran o'i gyllideb ysgolion unigol yn unol â rheoliad 5(2) ar ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo ailbenderfynu cyfrannau cyllideb ysgolion cyn diwedd y flwyddyn ariannol o dan sylw er mwyn dosbarthu i ysgolion y gweddill sydd heb ei ddyrannu o unrhyw swm y dalwyd gafael arno felly ar sail niferoedd disgyblion yn unol â rheoliad 8(1) neu (6).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources