- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
17.—(1) Yn achos ysgol a gynhelir sydd —
(a)yn ysgol newydd y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 2(2);
(b)yn ysgol (ac eithrio ysgol newydd) nad yw cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan unrhyw ddeddfiad wedi'u gweithredu'n llawn;
(c)yn ysgol sy'n destun cynigion ar gyfer newid rhagnodedig o dan Bennod II o Ran II o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000(1);
(ch)yn ysgol sy'n destun newid sylweddol i'w chymeriad, ehangiad sylweddol o'i mangre neu drosglwyddiad i safle newydd o dan Ddeddf 1996; neu
(d)yn ysgol feithrin a gynhelir sydd i'w chau yn y flwyddyn ariannol o dan sylw,
rhaid i'r awdurdod addysg lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran cyllideb yr ysgol er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, mewn unrhyw flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae ysgol yn derbyn disgyblion yn gyntaf ynddi, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran gyllideb.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod addysg lleol—
(a)y nifer hwnnw o ddisgyblion a nodwyd, pan gafodd cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol eu cyhoeddi, fel y nifer o ddisgyblion i'w derbyn i bob grŵ p oedran pan gafodd y cynigion eu gweithredu'n llawn; neu
(b)os na nodwyd unrhyw nifer o'r fath, unrhyw nifer a benderfynir gan yr awdurdod.
Mewnosodwyd adran 113A gan adran 72(1) o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: