- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(1) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol —
“(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau Brasil, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd nad yw'r cnau hynny yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd(2)), caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig mai ef yw'r mewnforiwr, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn —
(a)ailanfon y cnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, ond dim ond os cydymffurfir â'r amodau a bennir ym mhwyntiau (a) i (c) o Erthygl 6 o Benderfyniad y Comisiwn; neu
(b)(pan na chydymffurfir â'r gofynion hynny) distrywio'r cnau Brasil o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—
(a)hawl apelio i lys ynadon; a
(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.”.
(3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.
OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: