Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2004 Rhif 245 (Cy.24)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

4 Chwefror 2004

Yn dod i rym

8 Chwefror 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 8 Chwefror 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

2.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(3) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol —

(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau Brasil, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd nad yw'r cnau hynny yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd(4)), caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig mai ef yw'r mewnforiwr, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn —

(a)ailanfon y cnau Brasil i'r wlad y maent yn tarddu ohoni o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, ond dim ond os cydymffurfir â'r amodau a bennir ym mhwyntiau (a) i (c) o Erthygl 6 o Benderfyniad y Comisiwn; neu

(b)(pan na chydymffurfir â'r gofynion hynny) distrywio'r cnau Brasil o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.

(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—

(a)hawl apelio i lys ynadon; a

(b)y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl..

(3Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003

3.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003(5) yn unol â pharagraffau (2), (3) a (4).

(2Ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorwch y geiriau “Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)”.

(3Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.

(4Yn rheoliad 7 hepgorwch y geiriau “Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 1997, Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997 a”.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

4.—(1Diwygir Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(6) a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(7) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Ym mhob achos, ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorir y geiriau “Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)”.

(3Ym mhob achos, ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau “a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio” rhowch “a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)); Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)); Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)); a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910 (Cy.276)) sy'n cael eu hadnabod yn eu crynswth at ddibenion y Nodyn Esboniadol hwn fel “y Rheoliadau Bwyd”

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu geiriad diangen o reoliad 6(2) o'r priod Reoliadau Bwyd, sy'n darparu bod rhaid i hysbysiad, sy'n gorchymyn ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon, gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(3) o'r priod Reoliadau Bwyd er mwyn sicrhau bod y Llys Ynadon yn gallu penderfynu a yw hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 6(1) wedi'i gyflwyno'n gywir a hefyd a yw'n gyfreithlon mewnforio'r cynnyrch o dan sylw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol hefyd Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)). Maent yn diwygio'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd arolygiad neu archwiliad o gnau Brasil yn dangos nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) (rheoliad 2(2)). Mae'r weithdrefn ddiwygiedig yn cydweddu â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg sy'n deillio o Frasil neu wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).

Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliad 3(4)) hefyd yn diwygio'n benodol Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)) er mwyn cywiro gwall drafftio.

Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources