- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Rheoliad 4(1)(ch)
1. A yw'r asiantaeth yn cael ei rhedeg gan unigolyn, gan bersonau mewn partneriaeth neu gan gorff.
2. Natur y gwasanaethau y mae'r asiantaeth yn eu darparu.
3. Yr ardal ddaearyddol y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau ynddi.
4. Ystod cymwysterau'r gweithwyr gofal personol sydd i fod i ymweld â chartrefi defnyddwyr gwasanaeth.
5. O dan ba amgylchiadau y caiff yr asiantaeth roi terfyn ar ddarparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth.
6. Y trefniadau i ganslo'r cyflenwad o weithiwr gofal cartref gan y defnyddiwr gwasanaeth neu'r asiantaeth.
7. Ffioedd yr asiantaeth.
8. Y trefniadau a fydd yn gymwys yn ystod salwch neu reswm arall dros absenoldeb gweithwyr gofal cartref sydd i fod i weini yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth.
9. Y gofynion ynglŷn â dalennau amser.
10. Y weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol â rheoliad 21.
11. Y gweithdrefnau i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal cartref.
12. Y gweithdrefnau i ddiogelu eiddo'r defnyddwyr gwasanaeth.
13. Y gweithdrefnau ar gyfer rhoi meddyginiaeth, neu helpu i'w rhoi.
14. Y gofynion i amddiffyn iechyd a diogelwch gweithwyr gofal cartref.
15. Y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd digwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 27 yn digwydd.
16. Y trefniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth fynegi eu barn ynglŷn â'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.
17. Strwythur rheoli'r asiantaeth.
18. A yw'r asiantaeth, ac os felly i ba raddau, yn darparu gwasanaethau drwy bersonau heblaw cyflogeion yr asiantaeth.
Rheoliadau 8(3)(c), 9(5), a 10(2)(c)
1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.
2. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
3. Naill ai—
(a)os oes angen tystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997(1) (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
4. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para llai na thri mis.
5. Os yw person wedi gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
7. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
8. Os unigolyn yw'r person, adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol (yn ôl y digwydd) i redeg, rheoli neu fod â gofal dros asiantaeth.
9. Manylion cofrestriad gydag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth ohono.
10. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
Rheoliad 15(1)(b) a (2)
1. Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.
2. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn y perthynas agosaf.
3. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
4. Naill ai —
(a)os yw'r swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 113(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
5. Os yw'r person wedi gweithio ar unrhyw adeg yn y cyfnod o bum mlynedd cyn iddo gael ei gyflogi gan yr asiantaeth, dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys, os yw'r person wedi gweithio o'r blaen am fwy na thri mis mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, tystlythyr sy'n ymwneud â'r swydd ddiwethaf o'r fath a ddaliwyd.
6. Os yw'r person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben, ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
7. Tystiolaeth o allu ieithyddol boddhaol at ddibenion darparu gofal personol i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny y mae'r gweithiwr i ddarparu gofal personol iddynt.
8. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
9. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth a manylion unrhyw gyflogaeth gyfredol heblaw at ddibenion yr asiantaeth.
10. Datganiad gan y person ynglŷn â'i gyflwr o ran iechyd corfforol a meddyliol.
11. Datganiad gan y darparydd cofrestredig, neu'r rheolwr cofrestredig, yn ôl y digwydd, fod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.
12. Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.
Rheoliad 20
1. Cofnod o holl drafodion busnes yr asiantaeth.
2. Bonion neu gopïau o'r holl dderbynebau a roddwyd.
3. Manylion y ffioedd sy'n daladwy gan bob defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â darparu gofal personol.
4. Cofnodion treth a chyfraniadau yswiriant gwladol sy'n ymwneud â phob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
5. Cofnod o'r holl wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cofrestru mewn perthynas â'r asiantaeth.
6. Manylion pob honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall a wnaed yn erbyn un o gyflogeion yr asiantaeth, neu unrhyw weithiwr gofal cartref sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth, gan gynnwys manylion yr ymchwiliadau a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau a gymerwyd yn sgil hynny.
7. Manylion unrhyw ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar ddefnyddiwr gwasanaeth.
8. Y cynllun cyflenwi gwasanaeth a luniwyd ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth a chofnod manwl o'r gofal personol a roddwyd iddo.
9. Cofnod personél sy'n ymwneud â phob person sy'n cael ei gyflogi gan yr asiantaeth, neu sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: