ATODLEN 2YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Å DARPARWYR A RHEOLWYR COFRESTREDIG ASIANTAETH A PHERSONAU SYDD WEDI'U HENWI I DDIRPRWYO AR GYFER PERSON COFRESTREDIG
1
Enw, cyfeiriad, dyddiad geni a Rhif ffôn.
2
Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
3
Naill ai—
a
os oes angen tystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 19977 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o'r Ddeddf honno, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu
b
mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adrannau 133(3A) a 115(6A) o'r Ddeddf honno a'r darpariaethau canlynol pan fyddant mewn grym, sef adran 113(3C)(a) a (b) ac adran 115(6B)(a) a (b) o'r Ddeddf honno.
4
Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr sy'n ymwneud â'r cyfnod cyflogaeth diwethaf nad oedd wedi para llai na thri mis.
5
Os yw person wedi gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gwaith gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y swydd honno neu'r swyddogaeth honno i ben ac eithrio os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau cadarnhad o'r fath ond nad yw ar gael.
6
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymwysterau a hyfforddiant perthnasol.
7
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
8
Os unigolyn yw'r person, adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw'r person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol (yn ôl y digwydd) i redeg, rheoli neu fod â gofal dros asiantaeth.
9
Manylion cofrestriad gydag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth ohono.
10
Manylion unrhyw yswiriant indemnio proffesiynol.