- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
27.—(1) Os yw —
(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r asiantaeth; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu —
(a)pa mor hir y bydd yr absenoldeb arfaethedig neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a
(d)enw, cyfeiriad a chymwysterau unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 9.
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi yn sgil argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os bydd —
(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r asiantaeth; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, ac na roddwyd hysbysiad o'r absenoldeb i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: