- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
26.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd digwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn digwydd a rhaid rhoi'r hysbysiad hwnnw o fewn 24 awr o roi gwybod i'r person cofrestredig fod digwyddiad o'r fath wedi digwydd, neu o'r amser y daeth y person hwnnw yn ymwybodol fel arall o'r ffaith bod digwyddiad o'r fath wedi digwydd.
(2) Y digwyddiadau yw —
(a)unrhyw anaf difrifol y mae defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael ym mangre'r asiantaeth neu tra bo gweithiwr gofal cartref yn gweini ar y defnyddiwr gwasanaeth at ddibenion darparu gofal personol iddo;
(b)unrhyw ddigwyddiad —
(i)sy'n digwydd ym mangre'r asiantaeth tra bo gweithiwr gofal cartref yn gweini ar y defnyddiwr gwasanaeth er mwyn darparu gofal personol iddo, a
(ii)y rhoddir adroddiad amdano i'r heddlu, neu y mae ymchwiliad iddo yn cael ei gynnal ganddynt; ac
(c)unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 48 awr.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei bod yn ofynnol i'r personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth roi gwybod i'r person cofrestredig ar unwaith fod unrhyw un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi digwydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: