- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
15.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson yn gweithio fel gweithiwr gofal cartref at ddibenion yr asiantaeth oni bai —
(a)bod y person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth;
(b)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw; ac
(c)bod y person cofrestredig wedi'i fodloni ar seiliau rhesymol ynglŷn â dilysrwydd y tystlythyron y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 o Atodlen 3 mewn perthynas â'r person hwnnw.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd unrhyw berson nad yw'n weithiwr gofal cartref ond ei fod yn ofynnol iddo fel arall at ddibenion yr asiantaeth i ymweld â defnyddiwr gwasanaeth yn ei gartref yn gweithio i'r asiantaeth onid oes gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 a 9 o Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.
(3) Nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai —
(a)bod gan y person y cymwysterau, y profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni; a
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni.
(4) Ni fydd paragraffau 1(b) a (2), i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o Atodlen 3, yn gymwys tan 31 Hydref 2004 mewn perthynas â gweithiwr a gafodd ei gyflenwi gan yr asiantaeth neu a weithiodd iddi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 1 Mehefin 2003 hyd at 31 Mai 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: