Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2004 Rhif 218 (Cy.22)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

3 Chwefror 2004

Yn dod i rym

6 Chwefror 2004

Ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ac unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 104(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1) a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 104(1) a (2) a 123(1) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Lleol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 6 Chwefror 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Gorchymyn hwn:

(a)mae i “ardal llywodraeth leol” yr un ystyr â “local government area” yn adran 203 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2);

(b)ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(3); ac

(c)ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor fel y cyfeirir ato yn adran 21 o Ddeddf 1972.

Newid y diwrnod arferol yn 2004

2.—(1Er gwaethaf adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, yn 2004 yr un diwrnod â dyddiad y bleidlais yn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop(4) a gynhelir y flwyddyn honno fydd diwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru.

(2O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) cyfnod swydd unrhyw gynghorydd ar gyfer ardal llywodraeth leol yng Nghymru a fyddai wedi ymddeol fel arall ar y pedwerydd diwrnod ar ôl diwrnod arferol gwreiddiol etholiad at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod arferol etholiad newydd.

(3Cyfnod swydd cynghorydd a etholir ar gyfer ardal llywodaraeth leol yng Nghymru ar ddiwrnod arferol etholiad yn 2004 y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredin nesaf.

(4O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperiu ar ei gyfer ym mharagraff (1) ni fydd adran 16(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985(5) yn gymwys i unrhyw etholiadau cynghorwyr cymuned sydd i'w cynnal ar y diwrnod arferol ar gyfer etholiad cynghorwyr yn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn 2004.

(5Mae unrhyw gyfeiriad at 6 Mai 2004 mewn unrhyw orchymyn—

(a)sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 (gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau Lleol Cymru),

(b)sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 28(3) o Ddeddf 1972 (sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned),

(c)sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 57(6) o Ddeddf 1972 (newid y trefniadau etholiadol ar gyfer cyngor cymuned), neu

(ch)sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(6) (pŵer i newid y blynyddoedd pan fo etholiadau cyffredin cynghorwyr i'w cynnal),

i'w ddehongli fel cyfeiriad at ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr yn 2004 ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) uchod.

Etholiadau i lenwi swyddi gwag dros dro

3.  O ran etholiadau cyffredin yn 2004 yng Nghymru—

(a)os byddai cynghorydd prif gyngor fel rheol wedi ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr o'r fath yn 2004, byddai adran 89(3) o Ddeddf 1972 yn gymwys i swydd wag dros dro yn swydd y cynghorydd hwnnw fel petai'r geiriau “the period beginning with the 10th of November 2003 and ending immediately before” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “six months before”; a

(b)os byddai cynghorydd cymuned fel rheol wedi ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin, byddai rheol 8 o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986(7) yn gymwys i swydd cynghorydd sydd yn wag dros dro fel petai'r geiriau “within the period beginning with the 10th of November 2003 and ending immediately before” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “six months before” ym mharagraff (1) ac yn lle “within six months before” ym mharagraff (4).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Chwefror 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru newid drwy orchymyn ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud o dan yr adran honno, yn newid diwrnod arferol etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru fel y bydd yr un fath â dyddiad etholiadau Senedd Ewrop yn y flwyddyn honno. Mae'n ymdrin hefyd â nifer o faterion canlyniadol.

Fel arfer y dydd Iau cyntaf ym mis Mai ym mhob blwyddyn etholiad yw'r diwrnod arferol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru, fod y diwrnod hwn yn cael ei newid i fod yr un fath â dyddiad y bleidlais ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop yn 2004 sef 10 Mehefin. Mae'n darparu hefyd, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru—

  • fod cyfnodau swydd unrhyw gynghorwyr sydd i fod i ymddeol ar ôl yr etholiadau hynny i'w hestyn;

  • bod cyfnodau swydd cynghorwyr a gaiff eu hethol yn yr etholiadau hynny i'w lleihau;

  • na fydd adran 16(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 yn gymwys (fel rheol mae'r adran hon yn gohirio am dair wythnos unrhyw etholiadau cynghorau cymuned sydd i fod i gael eu cynnal ar yr un dyddiad ag etholiadau Senedd Ewrop ac etholiadau lleol eraill); a

  • bod cyfeiriadau at ddyddiad disgwyliedig yr etholiadau hyn yn 2004 yn y gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan y pwerau a restrir yn erthygl 2(5) (sy'n ymwneud â gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned, newid y trefniadau etholiadol ar gyfer cyngor cymuned a newid blwyddyn etholiadau lleol cyffredin) i'w dehongli yn unol â'r newid sy'n cael ei wneud gan erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn.

Mae Erthygl 3 yn estyn, o ran awdurdodau lleol yng Nghymru, y cyfnod pan na chaniateir cynnal is-etholiad cyn diwrnod arferol yr etholiad ar gyfer yr awdurdodau hynny, yn y fath fodd ag y bydd y cyfnod hwn, o ran etholiadau 2004, yn para o 10 Tachwedd 2003 (y dyddiad pan fyddai'r cyfnod hwn yn dechrau fel rheol) tan ddiwrnod arferol addasedig etholiadau o'r fath yn 2004 fel y penderfynir arno yn unol ag erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn.

(3)

1972 p.70. Cafodd adran 21 ei amnewid gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.

(4)

Mae dyddiad y bleidlais yn etholiad arferol Senedd Ewrop yn cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 4 o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002 (p. 24).

(5)

1985 p.50. Mae adran 16(1) yn darparu ar gyfer gohirio am 3 wythnos y bleidlais mewn etholiad cynghorwyr plwyfi os yw dyddiad y bleidlais mewn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop a diwrnod arferol etholiad cynghorwyr yng Nghymru a Lloegr yr un fath.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources