Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Rhan 6 (Cymru) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”) i rym ar y 1 Awst 2004, sef adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a) a (7), 75, 76(2) a (3), 77 a 78.

Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 78) yn sefydlu, yng Nghymru, system o gynlluniau datblygu lleol (“cynlluniau”) yn lle'r cynlluniau datblygu unedol sy'n ofynnol o dan Bennod I o Ran II o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Effaith y Gorchymyn fydd galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau ac i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru wrth iddynt baratoi ar gyfer y system cynlluniau datblygu newydd, a ddaw i rym maes o law.

Mae adran 62(4) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, ffurf a chynnwys cynlluniau.

Mae adran 62(5)(g) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, materion ychwanegol i'r rhai a restrwyd yn is-adran (5), y bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol dalu sylw iddynt wrth baratoi cynllun.

Mae adran 63 yn darparu ar gyfer cynlluniau cynnwys y gymuned, a fydd yn datgan polisi awdurdod ar gynnwys personau penodol wrth arfer swyddogaethau'r awdurdod o dan Rhan 6. Mae adran 63(3)(a) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi, drwy reoliadau, pwy y dylai'r personau hynny gynnwys.

Mae adran 63(7) yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol ragnodi, drwy reoliadau, nifer o faterion sy'n ymwneud â pharatoi cynlluniau.

Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir o dan neu yn rhinwedd Rhan 6, dalu sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae adran 76(2) yn ei gwneud yn ofynnol bod adroddiadau monitro blynyddol a wneir gan awdurdodau o dan is-adran (1) yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.

Mae adran 76(3) yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau monitro blynyddol gael eu gwneud ar yr amserau, i fod yn y ffurf ac i gynnwys yr wybodaeth a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau.

Mae adran 77 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer swyddogaethau o dan Ran 6 ac, yn arbennig, i wneud darpariaeth mewn perthynas â'r materion a restrir yn adran 77(2).

Mae adran 78 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 6 o'r Ddeddf.