- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sydd yn cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf, yn gwneud y Rheoliadau canlynol honno drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997(3)fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,500” ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir “£1,540”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£11,626” rhoddir “£11,935”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol—
| (1) | (2) | (3) | (4) |
|---|---|---|---|
| Part of relevant income to which specified percentage applies | Only assisted pupil (%) | Each of two assisted pupils (%) | Each of three assisted pupils (%) |
| That part (if any) which exceeds £11,769 but does not exceed £12,797 | 9 | 6.75 | 5.25 |
| That part (if any) which exceeds £12,797 but does not exceed £13,842 | 12 | 9 | 7 |
| That part (if any) which exceeds £13,842 but does not exceed £15,913 | 15 | 11.25 | 8.75 |
| That part (if any) which exceeds £15,913 but does not exceed £19,108 | 21 | 15.75 | 12.25 |
| That part (if any) which exceeds £19,108 but does not exceed £23,272 | 24 | 18 | 14 |
| That part (if any) which exceeds £23,272 | 33 | 24.75 | 19.25” |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 (“Rheoliadau 1997”) mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn rhagnodi trefniadau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno.
Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm “perthnasol” mewn perthynas â pherthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,500 i £1,540.
Ar lefel incwm 'perthnasol' benodol, neu o dan y lefel honno, gollyngir y ffioedd yn gyfan gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu i £11,935 yn lle £11,626, gyda chynnydd cyfatebol yn y cyfran nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm “perthnasol” yn fwy na'r swm hwnnw.
1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136), O.S. 2001/2680 (Cy.221), O.S. 2002/1879 (Cy.188) ac O.S. 2003/1854 (Cy.204).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: