- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
13 Gorffennaf 2004
Yn dod i rym
1 Medi 2004
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4), a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1),ac ar ôl ymgynghori gyda'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003(3);
ystyr “Rheoliadau UCD 2003” (“the 2003 PRU Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003(4)).
3. Yn rheoliad 5(1)(a) o Reoliadau 2003 mewnosoder y geiriau “dyddiad geni,” o flaen y gair “rhyw”.
4. Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder y geiriau “dyddiad geni,” o flaen y gair “rhyw”.
5.—(1) Yn lle rheoliad 6(3) o Reoliadau 2003 rhodder —
“(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl.”
(2) Yn rheoliad 6(4), mewnosoder ar ôl y geiriau “rhaid iddo” y geiriau “, onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,”.
(3) Yn rheoliad 6(6) —
(i)yn y fersiwn Cymraeg, yn lle'r geiriau “y dylid derbyn disgybl yn ôl” rhodder y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl”; a
(ii)ar ôl y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl” (fel y'u hamnewidir gan baragraff (i) uchod) mewnosoder y geiriau “neu ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r pennaeth yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl”.
6.—(1) Yn lle rheoliad 7(3) o Reoliadau UCD 2003 rhodder—
“(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl.”
(2) Yn rheoliad 7(4), mewnosoder ar ôl y geiriau “rhaid iddo” y geiriau “, onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,”.
(3) Yn rheoliad 7(6), ar ôl y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl” mewnosoder y geiriau “, neu, ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r athro neu athrawes â gofal yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl”.
7. Ar ôl rheoliad 8 o Reoliadau 2003 mewnosoder —
8A. Os yw'n fater —
(a)i'r pennaeth, wrth arfer pŵer a roddwyd gan adran 52(1) o Ddeddf 2002,
(b)i'r corff llywodraethu, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 6, neu
(c)i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.”.
8. Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder —
9A. Os yw'n fater —
(a)i'r athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion, wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 52(2) o Ddeddf 2002,
(b)i'r awdurdod addysg lleol, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7, neu
(c)i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'i haddaswyd, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 8,
i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Mae rheoliadau 3 a 4 yn ychwanegu dyddiad geni'r disgybl sydd wedi'i wahardd at ystod yr wybodaeth ar bob gwaharddiad y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ac athro â gofal uned cyfeirio disgyblion ei darparu i'r awdurdod addysg lleol bob tymor.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn cywiro camgymeriad yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hynny ac er mwyn darparu bod yn rhaid i gorff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn disgybl yn ôl rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy'n mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl. Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Mae rheoliad 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 er mwyn darparu bod yn rhaid i'r pennaeth, y corff llywodraethu neu'r panel apêl sefydlu'r ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd. Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad tebyg i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: