Search Legislation

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2004 Rhif 1804 (Cy.192)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004

Wedi'u gwneud

13 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002

2.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002(3) yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision” rhodder y diffiniad canlynol—

“the Commission Decision” means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China(4)) as amended by Commission Decision 2002/233/EC (5), Commission Decision 2002/678/EC(6), Commission Decision 2003/550/EC(7) and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community (8);.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) Rheoliadau 2002(9)) yn lle'r diffiniad o “the Commission Decision” rhodder y diffiniad canlynol —

“the Commission Decision” means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey(10) as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/679/EC(11)), Commission Decision 2003/552/EC(12) and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community (13);.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

4.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(14)) yn lle'r diffiniad o “ Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Brasil neu a draddodir oddi yno(15) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno(16);.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003

5.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003(17) yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran neu a draddodir oddi yno(18) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC(19)), Penderfyniad y Comisiwn 2000/238/EC(20), Penderfyniad y Comisiwn 2003/551/EC(21)) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/ EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw(22);.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003

6.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003(23) yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/49/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 1999/356/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio pysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o bysgnau sy'n tarddu o'r Aifft neu a draddodir oddi yno(24)) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/580/EC(25) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw(26);.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(27).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio —

  • Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2296 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288) a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw (rheoliadau 2, 3, 5 a 6); a

  • Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno (rheoliad 4).

Mae pob un o'r offerynnau a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio math penodol o fwyd.

Mae pob un o'r offerynnau hynny'n darparu ei bod yn rhaid i'r bwyd dan sylw gael ei fewnforio drwy bwyntiau mynediad penodol a restrir yn y Penderfyniad perthnasol.

Caiff y pwyntiau mynediad hynny eu hadolygu gan y Penderfyniadau a roddir ar waith gan y Rheoliadau hyn.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.21.

(5)

OJ Rhif L78, 21.3.2002, t.14.

(6)

OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.33.

(7)

OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.39.

(8)

OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.

(10)

OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.26.

(11)

OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.37.

(12)

OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.47.

(13)

OJ No. L154, 30.4.2004, t.20.

(15)

OJ Rhif L168, 5.7.2003, t.33.

(16)

OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.14.

(18)

OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30.

(19)

OJ Rhif L176, 20.6.1998, t.37.

(20)

OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59.

(21)

OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.43.

(22)

OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.

(24)

OJ Rhif L19, 25.1.2000, t.46

(25)

OJ Rhif L197, 5.8.2003, t.31.

(26)

OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.

(27)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources