Search Legislation

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Erthygl 11

YR ATODLENGofynion mewn crynhoad anifeiliaid

Dyletswyddau trwyddedai

1.—(1Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.

(2Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.

(3Mae'n rhaid i'r trwyddedai —

(a)sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a

(b)sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.

(4Yn achos crynhoad anifeiliaid y mae erthyglau 8 i 9 yn gymwys, rhaid i'r trwyddedai sicrhau —

(a)na ddeuir â'r un anifail i'r fangre cyn dechrau'r crynhoad anifeiliaid; a

(b)bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

2.—(1Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.

(2Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai —

(a)eu diheintio;

(b)newid ei ddillad am ddillad glân;

(c)eu taflu; neu

(d)ymadael â'r fangre drwyddedig.

(3Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union —

(a)glanhau ei ddillad allanol,

(b)newid ei ddillad am ddillad glân,

(c)gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu

(d)ymadael â'r fangre drwyddedig.

Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid

3.  Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.

Cerbydau

4.—(1Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd nac offer a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â dom anifeiliaid.

(2Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar sy'n dod ar fangre drwyddedig —

(a)ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom yr anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid a oedd yn cael eu cludo ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y fangre drwyddedig;

(b)yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os yr eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.

(3Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar sy'n ymadael â mangre drwyddedig —

(a)ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o'r cerbyd ar y fangre drwyddedig;

(b)ac arnynyt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom yr anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid a oedd yn cael eu llwytho ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources