Search Legislation

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004

What Version

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Tachwedd 2004.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

mae i “ardal i anifeiliaid” (“animal area”) yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 5(2)(c);

ystyr “crynhoad anifeiliaid” ( “animal gathering”) yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol —

(a)

gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

(b)

llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr;

(c)

archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(1) sydd o'r cryfder y mae ei angen o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer “Gorchmynion Cyffredinol ”;

mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys llociau a chlwydi; ac

ystyr mangre “wedi'i phalmantu” (“paved”) yw mangre ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol.

Hysbysiadau

3.  O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn —

(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

(b)gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac

(c)cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.

Eithriadau

4.  Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys os —

(a)yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;

(b)bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (2); ac

(c)bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu yn ei meddiannu.

Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid

5.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio mangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

(2Rhaid i drwydded bennu —

(a)enw'r trwyddedai;

(b)y fangre lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac

(c)yr ardal y mae'r anifeiliaid i gael mynediad (“yr ardal anifieliaid”)

Cyfyngiad o 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid

6.  Ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar fangre y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arni nes bydd 27 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod —

(a)y gadawodd yr anifail olaf y fangre honno; a

(b)ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei bod wedi'i halogi.

Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 diwrnod ar gyfer mangre ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu

7.—(1Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid yn fangre drwyddedig wedi'i phalmantu a'i glanhau a'i diheintio ac y gwaredir gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn y cynhelir crynhoad anifeiliaid arall.

(2O ran y gwaith glanhau a diheintio —

(a)rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a

(b)rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.

(3Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

(4Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r fangre drwyddedig eto —

(a)a'u distrywio,

(b)yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu

(c)eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.

(5Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â dom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y fangre drwyddedig eto.

Terfynau amser

8.—(1Rhaid i grynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre ag iddi ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu beidio â phara am fwy na 48 awr, gen ddechrau ganol dydd.

(2Caiff arolygydd milfeddygol estyn cyfnod crynhoad anifeiliaid o dan baragraff (1) os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—

(a)bod angen yr estyniad er lles yr anifeiliaid; neu

(b)mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny.

(3Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.

Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu

9.—(1Yn achos crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre ag ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu caiff y trwyddedai newid yr amser dechrau am ganol dydd, drwy o leiaf ddwy wythnos ymlaen llaw—

(a)hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol o ddyddiad ac amser dechrau a diweddu y crynhoad anifeiliaid; a

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel y bydd y sawl sy'n dod ag anifeiliaid yno yn cael gwybod am yr amser dechrau a diweddu newydd.

(2Os yw'r crynhoad anifeiliaid yn un sy'n digwydd ar sail reolaidd, gall yr hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer cyfres o grynoadau anifeiliaid.

Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig

10.—(1Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fangre ag ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu.

(2Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.

(3Rhaid i'r trwyddedai hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r awdurdod lleol fod y trwyddedai yn bwriadu cynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig o leiaf 3 diwrnod cyn y gwerthiant neu'r casgliad

(4Rhaid i'r trwyddedai roi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel bod y sawl sy'n dod ag anifeiliaid iddo yn cael gwybod ei fod yn werthiant cigydda dynodedig neu'n gasgliad cigydda dynodedig.

(5At ddibenion yr erthygl hon —

(a)ystyr “gwerthiant cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd yn at ddibenion gwerthiant yn unig cyn eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr;

(b)ystyr “casgliad cigydda dynodedig” yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd yn unig at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid

11.  Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid

12.—(1Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.

(2Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef —

(a)onid yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac os nad yw cyfnod 27 diwrnod wedi dod i ben ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y fangre drwyddedig; neu

(b)oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy ei olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

Gorfodi

13.—(1Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion penodol neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.

Dirymu

14.  Dirymir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003(3).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Ben Bradshaw

Yr Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

8 Gorffennaf 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources