- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
7.—(1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid yn fangre drwyddedig wedi'i phalmantu a'i glanhau a'i diheintio ac y gwaredir gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn y cynhelir crynhoad anifeiliaid arall.
(2) O ran y gwaith glanhau a diheintio —
(a)rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a
(b)rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.
(3) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.
(4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r fangre drwyddedig eto —
(a)a'u distrywio,
(b)yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu
(c)eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.
(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â dom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y fangre drwyddedig eto.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: