Llawlyfr staff a chod ymddygiad
26.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio llawlyfr staff a rhoi copi ohono i bob aelod o staff.
(2) Rhaid i'r llawlyfr a lunnir yn unol â pharagraff (1) gynnwys datganiad ynghylch —
(a)yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau o staff, a'r camau disgyblu y mae modd eu cymryd yn eu herbyn;
(b)rôl a chyfrifoldebau aelodau o staff a gofalwyr lleoliadau oedolion;
(c)gofynion cadw cofnodion;
(ch)trefniadau recriwtio; a
(d)cyfleoedd ac anghenion hyfforddi a datblygu gyrfa.