Rhedeg cynllun lleoli oedolion yn gyffredinol
19.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg, a bod llety a gofal personol yn cael eu darparu —
(a)i sicrhau diogelwch oedolion perthnasol;
(b)i sicrhau na leolir oedolyn mewn argyfwng oni bai bod hynny o fudd i'r oedolyn perthnasol;
(c)i ddiogelu oedolion perthnasol rhag camdriniaeth neu esgeulustod;
(ch)i hybu annibyniaeth oedolion perthnasol;
(d)i sicrhau diogelwch a diogeledd eiddo oedolion perthnasol;
(dd)mewn dull sy'n parchu preifatrwydd, urddas a dymuniadau oedolion perthnasol a chyfrinachedd gwybodaeth sy'n ymwneud â hwy; ac
(e)gan roi sylw priodol i ryw, tueddfryd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd oedolion perthnasol, a'r ffordd y maent yn dymuno byw eu bywyd.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, mewn perthynas â rhedeg cynllun lleoli oedolion —
(a)cynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gyda staff y cynllun lleoli oedolion, gofalwyr lleoliadau oedolion ac oedolion perthnasol;
(b)annog a chynorthwyo staff i gynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gyda gofalwyr lleoliadau oedolion ac oedolion perthnasol; ac
(c)annog a chynorthwyo gofalwyr lleoliadau oedolion i gynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gydag oedolion perthnasol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau priodol i sicrhau bod barn oedolion perthnasol yn cael ei hystyried wrth redeg y cynllun.