Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN I —CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

dehonglir “arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion” (“adult placement scheme guide”) yn unol â rheoliad 5;

ystyr “cartref” (“home”) yw, pan fydd gan berson fwy nag un cartref, y cartref lle mae'r person yn preswylio fel arfer;

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;

ystyr “cynllun lleoli oedolion” (“adult placement scheme”) yw cynllun y mae trefniadau odano, neu y bwriedir gwneud trefniadau odano, i ddim mwy na dau oedolyn gael eu lletya a derbyn gofal personol yng nghartref person nad yw'n berthynas iddo;

dehonglir “cynllun oedolyn” (“adult’s plan”) yn unol â rheoliad 18 ac mae'n cynnwys y cynllun hwnnw fel y bydd yn cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd;

dehonglir “cytundeb lleoli oedolion” (“adult placement agreement”) yn unol â rheoliad 13;

ystyr “cynrychiolydd” (“representative”) mewn perthynas ag oedolyn perthnasol yw person (heblaw darparwr neu reolwr cofrestredig, aelod o staff neu ofalwr lleoliad oedolion) sydd, gyda chydsyniad datganedig neu oblygedig, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr oedolyn;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw person a gofrestrwyd o dan Ran II o'r Ddeddf fel darparwr y cynllun lleoli oedolion;

dehonglir “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yn unol â rheoliad 4;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gofalwr lleoliad oedolion” (“adult placement carer”) yw person y mae oedolyn yn cael ei letya yn ei gartref neu berson y mae caniatâd iddo letya oedolyn yn ei gartref a rhoi gofal personol iddo o dan gytundeb lleoli oedolion a wnaed gan y gofalwr neu o dan gytundeb lleoli oedolion y mae gofalwr yn bwriadu'i wneud;

mae “gwaith” (“work”) yn cynnwys unrhyw fath ar waith, p'un a yw'n waith y telir amdano neu'n waith na thelir amdano, a ph'un a yw o dan gontract prentisiaeth, o dan gontract am wasanaethau, neu waith nad yw o dan gontract;

mae i “gwasanaethau gofal” yr un ystyr â “care services” yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(1);

dehonglir “lleoli” (“placed”) yn unol â'r diffiniad o “lleoliad” (“placement”);

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw trefniant i letya oedolyn yng nghartref gofalwr lleoliad oedolion;

ystyr “mangre cynllun” (“scheme premises”) yw mangre o le mae rheoli'r cynllun lleoli oedolion yn digwydd;

mae i “oedolyn hawdd ei niweidio” yr un ystyr ag sydd i “vulnerable adult” yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(2);

ystyr “oedolyn perthnasol” (“relevant adult”) mewn perthynas â chynllun yw oedolyn y mae caniatâd i'w leoli o dan y cynllun neu sydd wedi'i leoli o dan y cynllun;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw unrhyw berson sy'n ddarparwr cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig ar y cynllun lleoli oedolion;

ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag oedolyn perthnasol yw—

(a)

priod yr oedolyn;

(b)

unrhyw riant, nain (mam-gu), taid (tad-cu), plentyn, ŵ yr, wyres, gorwyr, gorwyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai, neu nith yr oedolyn neu briod yr oedolyn;

(c)

priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;

(ch)

person y cafodd yr oedolyn ei letya gydag ef am fwy na 28 o ddiwrnodau rhwng un ar bymtheg oed a deunaw oed o dan drefniadau maethu, neu briod y person;

ac at ddibenion penderfynu sut y mae personau yn perthyn i'w gilydd trinnir llysblentyn person fel ei blentyn ef, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel petaent yn ŵ r a gwraig;

ystyr “prif swyddfa'r cynllun” (“principal office of the scheme”) yw'r swyddfa lle gweinyddir y cynllun yn bennaf;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw person a gofrestrwyd o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y cynllun lleoli oedolion;

ystyr “staff” (“staff”) mewn perthynas â chynllun, yw personau, heblaw gofalwyr lleoliadau oedolion, sy'n gweithio at ddibenion y cynllun;

ystyr “swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol” (“appropriate office of the National Assembly”) mewn perthynas â chynllun lleoli oedolion—

(a)

os yw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu o dan reoliad 33 ar gyfer yr ardal lle mae prif swyddfa'r cynllun, y swyddfa honno; neu

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

dehonglir “trefn gwyno” (“complaints procedure”) yn unol â rheoliad 21; a

dehonglir “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 8(2);

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen sy'n dwyn Rhif yn gyfeiriad at reoliad neu Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad ar y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff i is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

(3Yn rheoliadau 2(1) a 7 ac yn Atodlen 1, mae cyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf yn gyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd gan reoliad 3 ac Atodlen 1.

Personau rhagnodedig

3.—(1Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mae person sy'n darparu neu'n rheoli cynllun lleoli oedolion yn cael ei ragnodi at ddibenion adran 42(1) o'r Ddeddf.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd y person yn unigolyn ac nid yw ond yn gwneud trefniadau ar gyfer lletya a darparu gofal personol ar gyfer ei berthynas.

(3Mae Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir ym mharagraff (1) yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1 ac yn unol â'r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Datganiad o ddiben

4.—(1Mewn perthynas â'r cynllun lleoli oedolion, rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y “datganiad o ddiben”) a fydd wedi'i wneud o'r canlynol —

(a)datganiad o nodau ac amcanion y cynllun;

(b)datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoli oedolion ar gyfer oedolion perthnasol; a

(c)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)darparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)trefnu bod y datganiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw oedolyn perthnasol a chynrychiolydd y math hwnnw o oedolyn ar eu cais.

Arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio arweiniad ysgrifenedig i'r cynllun lleoli oedolion (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion”) ac mae'n rhaid iddo gynnwys —

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;

(b)naill ai crynodeb o'r adroddiad archwilio diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;

(c)crynodeb o'r drefn gwyno a baratowyd o dan reoliad 21; ac

(ch)cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)darparu copi o'r arweiniad cyntaf i'r cynllun lleoli oedolion i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)darparu copi o'r arweiniad cyfredol i bob oedolyn pan gaiff ei leoli gyntaf o dan y cynllun lleoli oedolion;

(c)darparu ar gais gopi o'r arweiniad cyfredol i unrhyw oedolyn y mae caniatâd i'w leoli o dan y cynllun neu i gynrychiolydd yr oedolyn.

(3Rhaid llunio'r arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion mewn fformat sy'n briodol i anghenion oedolion perthnasol.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion

6.—(1Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)adolygu'n gyson ac, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth â pharagraff (2), pan fydd yn briodol, diwygio'r datganiad o ddiben a'r arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion; a

(b)os diwygir yr arweiniad i'r cynllun lleoli oedolion, darparu copi diwygiedig i bob oedolyn sydd wedi'i leoli adeg y diwygio o dan y cynllun lleoli oedolion.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, pan fydd yn ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn iddo fod yn effeithiol.

Dogfennau'r cynllun

7.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ffaith bod y cynllun lleoli oedolion wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn cael ei gofnodi ym mhob gohebiaeth a dogfennau eraill a luniwyd mewn cysylltiad â'r cynllun.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparwr cofrestredig

8.—(1Ni chaiff person ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion oni bai bod y person yn —

(a)unigolyn sy'n darparu cynllun lleoli oedolion —

(i)heb fod mewn partneriaeth ag eraill ac sy'n bodloni gofynion paragraff (3); neu

(ii)mewn partneriaeth ag eraill a'i fod ef a phob un o'r partneriaid yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)corff ac —

(i)mae wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) o fewn y corff ac sy'n gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu uwch swyddog arall yn y corff ac sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw bod —

(a)y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ddarparu neu (yn ôl y digwydd) fod yn gyfrifol am reoli'r cynllun; ac

(c)mae gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw.

(4Nid yw person yn ffit i ddarparu cynllun lleoli oedolion os —

(a)yw ef wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu os y dyfarnwyd i'w ystad gael ei secwestrio ac (yn y naill achos neu'r llall) os na ryddhawyd ef ac os na ddirymwyd neu ddadwnaed y gorchymyn methdalu; neu

(b)yw ef wedi gwneud compównd neu drefniant gyda'i gredydwyr, neu os yw wedi rhoi gweithred ymddiried ar eu cyfer, ac nad yw ef wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef neu â hi.

Penodi rheolwr

9.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cynllun os—

(a)nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cynllun; a

(b)yw'r darparwr cofrestredig —

(i)yn gorff;

(ii)yn rhedeg y cynllun mewn partneriaeth;

(iii)heb fod yn berson ffit i reoli cynllun; neu

(iv)heb fod, neu heb fwriad o fod, yng ngofal y cynllun yn llawnamser o ddydd i ddydd.

(2Os digwydd y canlynol—

(a)bod y darparwr cofrestredig, neu

(b)os penodwyd o dan baragarff (1), bod y rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod, neu yn debygol o fod, neu a fu, yn absennol o swyddfeydd y cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r darparwr cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cynllun yn ystod absenoldeb y darparwr neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig.

(3Pan fydd y darparwr cofrestredig yn penodi person i reoli'r cynllun, rhaid iddo ef hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith am —

(a)enw'r person a benodwyd felly; a

(b)yn ddarostyngedig i gofrestru, y dyddiad pryd y daw'r penodiad yn effeithiol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig enwebu person i fod yng ngofal y cynllun ar bob adeg y mae'r swyddfeydd y cynllun ar agor ar gyfer busnes a phan fydd y person cofrestredig yn absennol o'r fangre.

(5Nid oes caniatâd i enwebu person at ddibenion paragraff (4) oni bai bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas ag ef ac a ddarparwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ffitrwydd rheolwr

10.—(1Ni chaiff person reoli cynllun oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli cynllun oni bai —

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)o ystyried natur y cynllun a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cynllun; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cynllun; ac

(c)bod gwybodaeth neu (yn ôl y digwydd) ddogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3 ar gael mewn perthynas â'r person.

Person cofrestredig — gofynion cyffredinol a hyfforddiant

11.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, gan roi sylw i natur y cynllun lleoli oedolion a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion ddarparu neu (yn ôl y digwydd) reoli'r cynllun â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.

(2Os yw'r darparwr cofrestredig —

(a)yn unigolyn, rhaid i'r unigolyn hwnnw ymgymryd, neu

(b)yn gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i sicrhau y darperir y cynllun â gofal, cymhwysedd a'r sgil digonol.

(3Os yw'r cynllun yn cael ei redeg gan unigolion mewn partneriaeth, rhaid i'r partneriaid sicrhau bod un ohonynt yn ymgymryd â hyfforddiant fel sy'n ofynnol gan baragraff (2).

(4Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol i sicrhau bod ganddo'r arbenigedd, y profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i reoli'r cynllun.

Hysbysu tramgwyddau

12.  Pan gollfernir y person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol am unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu yn rhywle arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith am—

(a)dyddiad a lle'r gollfarn;

(b)y tramgwydd; ac

(c)y gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.

RHAN III —LLEOLIADAU OEDOLION A GOFALWYR LLEOLIADAU OEDOLION

Gwneud lleoliadau a cytundebau lleoliadau oedolion

13.—(1Rhaid i berson cofrestredig beidio â lleoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion oni bai bod y darparwr cofrestredig wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r gofalwr (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “cytundeb lleoli oedolion”) ac sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir ym mharagraff (2).

(2Y gofynion yw —

(a) gofynion cyffredinol

(a)pryd bynnag y bo'n ymarferol, bod yr oedolyn perthnasol yn barti i'r cytundeb;

(b)bod y cytundeb yn adlewyrchu rhwymedigaethau'r person cofrestredig o dan reoliad 19 (rhedeg y cynllun yn gyffredinol);

(c)bod y cytundeb yn pennu amcanion y lleoliad;

(ch) gofal a gwasanaethau eraill a ddarperir gan y lleoliad

(ch)pryd bynnag y bo'n ymarferol, bod y cytundeb yn pennu pa elfennau o gynllun yr oedolyn sydd i'w darparu gan ofalwr y lleoliad oedolion ar ran y person sy'n gyfrifol am ofal yr oedolyn;

(d)pan na fu'n ymarferol cydymffurfio â'r gofyniad yn is-baragraff (ch) cyn dechrau'r lleoliad, bod y cytundeb yn darparu y caiff y pennu y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw ei ddarparu erbyn y trydydd diwrnod gwaith ar ôl dechrau'r lleoliad;

(dd)pryd bynnag y bo'n ymarferol, bod y cytundeb yn enwi unigolyn heblaw'r person cofrestredig, aelod o'u staff neu'r gofalwr lleoliad oedolion, sydd drwy gydsyniad datganedig neu oblygedig yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles yr oedolyn;

(e)bod y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i'r gofalwr lleoliad oedolion gadw cofnod o'r gofal personol a'r gwasanaethau eraill a ddarperir i'r oedolyn o dan y cytundeb a diweddaru'r cofnod yn gyson, a'i gadw yn drefnus ac yn ddiogel;

(f)bod y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i'r gofalwr lleoliad oedolion drosglwyddo'r cofnodion a ddisgrifir yn is-baragraff (e) a chopi o gynllun yr oedolyn yng nghartref y gofalwr i'r person cofrestredig os deuir â'r lleoliad i ben;

(ff)bod y cytundeb yn pennu trefniadau addas i gynorthwyo'r oedolyn gyda symudedd yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion, pan fydd hynny yn ofynnol;

(g)bod y cytundeb yn pennu cymwysterau a phrofiad y gofalwr lleoliad oedolion;

(ng)bod y cytundeb yn pennu —

(i)yr ystafell sydd i'w meddiannu gan yr oedolyn yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion;

(ii)y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â'r lleoliad a phwy sydd i'w talu;

(iii)y telerau ac amodau mewn perthynas â'r llety, y gofal personol a'r gwasanaethau eraill sydd i'w darparu;

(h) amddiffyn yr oedolyn

(h)bod y cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i'r gofalwr lleoli oedolion beidio â chaniatáu i unrhyw berson ymgymryd â gwaith sy'n cynnwys darparu gwasanaethau gofal at ddibenion y lleoliad oni bai bod tystysgrif a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 3 mewn perthynas â'r person ar gael;

(i)bod y cytundeb yn disgrifio'r drefn i'w dilyn os oes honiad o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed arall wedi'i wneud;

(j)bod y cytundeb yn darparu nad yw'r oedolyn i fod i gael ei atal yn gorfforol rhag symud oni bai mai'r math ar atal a ddefnyddir yw'r unig ffordd ymarferol o sicrhau lles yr oedolyn neu lles person arall yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion;

(l)bod y cytundeb yn darparu bod unrhyw honiad o fath a grybwyllir ym mharagraff (i) neu'r defnydd o unrhyw ddull o atal oedolyn yn gorfforol rhag symud i'w adrodd i'r person cofrestredig; ac

(ll)bod y cytundeb yn pennu —

(i)yr amgylchiadau pryd y caiff y gofalwr lleoliad oedolion roi neu gynorthwyo i roi meddyginiaeth yr oedolyn iddo a'r drefn i'w mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hynny; a

(ii)y drefn i'w dilyn pan fydd gofalwr lleoliad oedolion yn gweithredu fel asiant ar ran yr oedolyn neu pan fydd y gofalwr yn derbyn arian oddi wrth yr oedolyn.

(3Rhaid i'r person cofrestredig beidio â lleoli oedolyn oni bai i'r person cofrestredig —

(a)canfod ac ystyried dymuniadau a theimladau'r oedolyn; a

(b)pryd bynnag y bo'n ymarferol, ddarparu i'r oedolyn wybodaeth gynhwysfawr a dewis addas o ran y lleoliadau a all fod ar gael i'r oedolyn.

(4Rhaid i'r person cofrestredig annog a chymryd camau addas i alluogi oedolion perthnasol i wneud penderfyniadau o ran lleoliadau.

Monitro ac adolygu lleoliadau

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig fonitro lleoliad at ddibenion ystyried a yw'r gofalwr lleoliad oedolion yn bodloni'i rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli oedolion.

(2Rhaid i'r person cofrestredig adolygu'r cytundeb lleoli oedolion —

(a)o leiaf unwaith cyn pen blwyddyn gyntaf y lleoliad;

(b)pryd bynnag y bo newid arwyddocaol i gynllun yr oedolyn;

(c)ar gais rhesymol yr oedolyn perthnasol;

(ch)beth bynnag, cyn pen blwyddyn i'r adolygiad diwethaf.

(3Wrth fonitro lleoliad ac adolygu cytundeb lleoli oedolion, rhaid i'r person cofrestredig geisio barn yr oedolyn perthnasol.

Dod â lleoliadau i ben

15.—(1Heb iddo leihau effaith rheoliad 16(2) (ffitrwydd gofalwyr lleoliadau oedolion), rhaid i'r person cofrestredig ddod â chytundeb lleoli oedolion i ben os ymddengys nad yw'r gofalwr lleoliad oedolion yn bodloni'i rwymedigaethau neu na fydd yn eu bodloni o dan y cytundeb.

(2Rhaid i'r person cofrestredig beidio â dod â chytundeb lleoli oedolion i ben heb yn gyntaf ymgynghori â'r oedolyn perthnasol a'i gynrychiolydd, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i ymgynghori â hwy.

Ffitrwydd gofalwyr lleoliadau oedolion

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud cytundeb lleoli oedolion gyda gofalwr lleoliad oedolion oni bai bod y gofalwr yn ffit i fod yn ofalwr lleoliad oedolion at ddibenion y lleoliad.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddod â chytundeb lleoli oedolion i ben os bydd y gofalwr lleoliad oedolion yn peidio â bod yn ffit i fod yn ofalwr lleoliad oedolion at ddibenion y lleoliad.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), nid yw person yn ffit i fod yn ofalwr lleoli oedolion at ddibenion lleoliad oni bai —

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad;

(b)ei fod ef yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i fodloni'i rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli oedolion;

(c)bod ganddo'r cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol i fodloni'i rwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli oedolion; a

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas ag ef o ran y materion a bennir yn Atodlen 3.

Gofalwyr lleoliadau oedolion — hyfforddiant

17.  Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau priodol i sicrhau bod gofalwyr lleoliadau oedolion y mae'r person cofrestredig wedi lleoli oedolyn gyda hwy yn cael hyfforddiant digonol er mwyn eu cynorthwyo i barhau i fodloni'u rhwymedigaethau o dan y cytundeb lleoli oedolion.

Cynlluniau oedolion

18.—(1Pryd bynnag y bo'n ymarferol rhaid i'r person cofrestredig beidio â lleoli oedolyn oni bai bod y person cofrestredig wedi —

(a)cynnal asesiad o anghenion yr oedolyn o ran ei iechyd a'i les; a

(b)llunio cynllun ysgrifenedig (“cynllun yr oedolyn”) sy'n nodi sut mae'r anghenion hynny i'w diwallu.

(2Os na fu'n ymarferol i gydymffurfio â pharagraff (1) cyn i leoliad ddechrau, rhaid i'r person cofrestredig gydymffurfio ag is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1) erbyn diwedd y trydydd diwrnod gwaith ar ôl i'r lleoliad ddechrau.

(3Rhaid i'r person cofrestredig adolygu cynllun yr oedolyn yn gyson a'i ddiwygio fel y bo'n briodol.

(4Wrth lunio neu ddiwygio cynllun oedolyn, rhaid i'r person cofrestredig —

(a)sicrhau bod y cynllun yn gyson ag unrhyw gynllun gofal ar gyfer yr oedolyn a luniwyd gan awdurdod cyhoeddus; a

(b)ymgynghori â'r oedolyn neu gynrychiolydd yr oedolyn.

(5Rhaid i'r person cofrestredig trefnu bod cynllun yr oedolyn ar gael i'r oedolyn neu gynrychiolydd yr oedolyn.

RHAN IV —RHEDEG CYNLLUNIAU LLEOLI OEDOLION

Rhedeg cynllun lleoli oedolion yn gyffredinol

19.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cynllun yn cael ei redeg, a bod llety a gofal personol yn cael eu darparu —

(a)i sicrhau diogelwch oedolion perthnasol;

(b)i sicrhau na leolir oedolyn mewn argyfwng oni bai bod hynny o fudd i'r oedolyn perthnasol;

(c)i ddiogelu oedolion perthnasol rhag camdriniaeth neu esgeulustod;

(ch)i hybu annibyniaeth oedolion perthnasol;

(d)i sicrhau diogelwch a diogeledd eiddo oedolion perthnasol;

(dd)mewn dull sy'n parchu preifatrwydd, urddas a dymuniadau oedolion perthnasol a chyfrinachedd gwybodaeth sy'n ymwneud â hwy; ac

(e)gan roi sylw priodol i ryw, tueddfryd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd oedolion perthnasol, a'r ffordd y maent yn dymuno byw eu bywyd.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, mewn perthynas â rhedeg cynllun lleoli oedolion —

(a)cynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gyda staff y cynllun lleoli oedolion, gofalwyr lleoliadau oedolion ac oedolion perthnasol;

(b)annog a chynorthwyo staff i gynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gyda gofalwyr lleoliadau oedolion ac oedolion perthnasol; ac

(c)annog a chynorthwyo gofalwyr lleoliadau oedolion i gynnal a chadw chydberthnasau personol a phroffesiynol da gydag oedolion perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau priodol i sicrhau bod barn oedolion perthnasol yn cael ei hystyried wrth redeg y cynllun.

Cofnodion

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 4 a ffeiliau personol yn cael eu cynnal a'u cadw a'u bod —

(a)yn cael eu diweddaru'n gyson, yn drefnus ac yn ddiogel;

(b)bob amser ar gael i'w harchwilio ym mhrif swyddfa'r cynllun gan unrhyw berson a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i fangre'r cynllun lleoli oedolion i'w harchwilio; ac

(c)yn cael eu cadw am gyfnod nad yw'n llai na thair blynedd ac sy'n dechrau ar ddyddiad y cofnod diwethaf.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o bob cynllun oedolyn a chofnod manwl o'r gofal personol a'r gwasanaethau eraill a ddarperir i'r oedolyn yn ystod lleoliad yn cael eu cadw yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion a'u bod yn cael eu diweddaru'n gyson, yn drefnus ac yn ddiogel.

Cwynion

21.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn trefn ysgrifenedig (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y drefn gwyno”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddi gan ofalwr lleoliad oedolion, oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol.

(2Rhaid i'r drefn gwyno fod yn briodol i anghenion oedolion perthnasol.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gŵyn a wneir o dan y drefn gwyno yn cael ei hymchwilio'n llawn.

(4Rhaid i'r person cofrestredig, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ond beth bynnag cyn pen 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad pan gafwyd y gŵyn, hysbysu'r person a wnaeth y gŵ yn o'r camau (os oes rhai) sydd i'w cymryd.

(5Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r drefn gwyno i —

(a)pob oedolyn y mae wedi'i osod o dan y cynllun; a

(b)ar gais, i unrhyw oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol.

(6Pan fydd copi o'r drefn gwyno i'w rhoi yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu sydd â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw'n ymarferol gwneud hynny, roi, yn ogystal â'r copi ysgrifenedig, fersiwn o'r drefn mewn dull sy'n addas i'r person hwnnw.

(7Rhaid i'r copi o'r drefn gwyno gynnwys —

(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)y drefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig i wneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â'r cynllun.

(8Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar ei chais ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.

Adolygu ansawdd gweithredu'r cynllun

22.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal a chadw system er mwyn—

(a)adolygu ar adegau addas; a

(b)gwella

ansawdd gweithredu'r cynllun, gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal a ddarperir mewn lleoliadau.

(2Rhaid i'r person roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael, ar gais, i ofalwyr lleoliadau oedolion, oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr.

(3Rhaid i'r system ddarparu ar gyfer ymgynghori gyda gofalwyr lleoliadau oedolion a chydag oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr.

Ymweliadau gan y darparwr cofrestredig

23.—(1Pan fydd darparwr cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cynllun, rhaid iddo ef ymweld â phrif swyddfa'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Pan fydd y darparwr cofrestredig yn gorff, rhaid i'r canlynol ymweld â phrif swyddfa'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn —

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)cyfarwyddwr neu berson arall sy'n gyfrifol am reoli'r cynllun, ar yr amod bod y cyfarwyddwr neu'r person arall yn addas i ymweld â'r swyddfa; neu

(c)cyflogai neu aelod o'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cynllun, ar yr amod bod y person yn addas i ymweld â'r swyddfa.

(3Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob chwe mis.

(4Rhaid i'r person cofrestredig gynorthwyo gofalwyr lleoliadau oedolion y mae wedi lleoli oedolyn gyda hwy a chynorthwyo'r oedolion hynny i roi'u barn am y cynllun at ddibenion ymweliadau a gynhelir o dan y rheoliad hwn.

(5Rhaid i'r person sy'n ymweld —

(a)cyfweld â'r gofalwyr lleoliadau oedolion hynny a'r oedolion perthnasol a'u cynrychiolwyr sy'n dymuno cael eu cyfweld at ddibenion yr ymweliad, a rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal yn breifat os yw'r gofalwr neu'r oedolyn yn gofyn am hynny;

(b)archwilio mangre'r swyddfa, ei chofnod o ddigwyddiadau a gedwir o dan baragraff 4 o Atodlen 4 a'i chofnod o gwynion a gedwir o dan baragraff 5 o Atodlen 4; a

(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar sut mae'r cynllun yn cael ei redeg.

(6Rhaid i gyfweliad y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(a) gael ei gynnal yng nghartref y gofalwr lleoliad oedolion os yw'r gofalwr neu'r oedolyn yn dymuno hynny.

(7Rhaid i'r darparwr cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei wneud o dan baragraff (5)(c) i —

(a)rheolwr cofrestredig y cynllun y mae'n rhaid iddo gadw'r adroddiad ym mhrif swyddfa'r cynllun; a

(b)o ran ymweliad o dan baragraff (2) i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.

Ffitrwydd y gweithwyr

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes unrhyw berson yn gweithio at ddibenion y cynllun oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion cynllun oni bai—

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad;

(b)bod ganddo'r cymwysterau, y sgiliau, y cymhwyster a'r profiad sy'n angenrheidiol i'r gwaith y mae ef i'w gyflawni;

(c)ei fod ef yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae ef i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas ag ef mewn perthynas â'r materion a bennir yn Atodlen 3.

Staff a'u hyfforddiant

25.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, wedi iddo roi sylw i natur y cynllun, y datganiad o ddiben a nifer yr oedolion perthnasol a'u hanghenion, sicrhau bod —

(a)bod nifer briodol o staff sydd â'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad addas ar gael bob amser;

(b)bod gwybodaeth a chyngor priodol yn cael eu darparu i staff, a bod gwybodaeth a chyngor pellach ar gael iddynt ar eu cais rhesymol, mewn perthynas ag unrhyw un o anghenion oedolion perthnasol y mae modd eu diwallu gan y cynllun; ac

(c)bod cymorth addas yn cael ei ddarparu i staff.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob aelod o staff —

(a)yn cael ei hyfforddi a'i arfarnu mewn dull sy'n addas i'w waith; a

(b)yn cael ei alluogi o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'w waith.

Llawlyfr staff a chod ymddygiad

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio llawlyfr staff a rhoi copi ohono i bob aelod o staff.

(2Rhaid i'r llawlyfr a lunnir yn unol â pharagraff (1) gynnwys datganiad ynghylch —

(a)yr ymddygiad a ddisgwylir gan aelodau o staff, a'r camau disgyblu y mae modd eu cymryd yn eu herbyn;

(b)rôl a chyfrifoldebau aelodau o staff a gofalwyr lleoliadau oedolion;

(c)gofynion cadw cofnodion;

(ch)trefniadau recriwtio; a

(d)cyfleoedd ac anghenion hyfforddi a datblygu gyrfa.

Sefyllfa ariannol

27.—(1Rhaid i'r darparwr cofrestredig reoli'r cynllun mewn dull sy'n debygol o sicrhau y bydd yn ddichonadwy yn ariannol at ddibenion cyrraedd y nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2Os nad awdurdod lleol yw'r darparwr cofrestredig, rhaid i'r darparwr roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'n gofyn amdani er mwyn ystyried dichonoldeb ariannol y cynllun, gan gynnwys —

(a)cyfrifon ariannol y cynllun, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

(b)geirda oddi wrth fanc ac sy'n mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparwr cofrestredig;

(c)gwybodaeth am ariannu'r cynllun a'i adnoddau ariannol;

(ch)pan fydd y darparwr cofrestredig yn gwmni, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig; a

(d)tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparwr cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth y mae'n bosibl i'r darparwr fynd iddi mewn perthynas â'r cynllun o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd i'r cyhoedd, difrod neu unrhyw golled arall.

(3Os nad awdurdod lleol yw'r darparwr cofrestredig, rhaid i'r darparwr —

(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a'u cadw mewn perthynas â'r cynllun a'u bod yn cael eu diweddaru'n gyson;

(b)sicrhau bod y cyfrifon yn rhoi manylion costau rhedeg y cynllun, gan gynnwys rhent, taliadau o dan forgais a gwariant ar gyflogau staff; ac

(c)rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei gais.

Hysbysu digwyddiadau

28.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os yw digwyddiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn digwydd, a rhaid rhoi'r hysbysiad cyn pen 24 awr i'r person cofrestredig gael gwybod, neu ddod yn ymwybodol drwy ddull arall, bod digwyddiad o'r math hwnnw wedi digwydd.

(2Dyma'r digwyddiadau —

(a)unrhyw anaf difrifol a gafodd oedolyn perthnasol ym mangre'r cynllun neu pan oedd dan ofal gofalwr lleoliad oedolion;

(b)unrhyw ddigwyddiad sydd —

(i)yn digwydd ym mangre'r cynllun neu mewn cysylltiad â lleoliad, a

(ii)yn cael ei hysbysu i'r heddlu neu'n cael ei ymchwilio ganddynt; ac

(c)unrhyw honiad o gamymddwyn gan berson cofrestredig, aelod o staff neu ofalwr lleoliad oedolion.

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan y rheoliad hwn ac a roddir yn llafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei bod yn ofynnol i aelodau o staff hysbysu'r person cofrestredig ar unwaith os digwydd unrhyw un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2).

Hysbysu absenoldeb

29.—(1Os bydd —

(a)darparwr cofrestredig sy'n rheoli'r cynllun; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

yn bwriadu bod yn absennol o'r cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r absenoldeb yn ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi dim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb ddechrau, neu cyn pen unrhyw gyfnod byrrach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arno, a rhaid i'r hysbysiad bennu —

(a)hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;

(b)y rheswm dros yr absenoldeb;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud er mwyn rhedeg y cynllun yn ystod yr absenoldeb; ac

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am y cynllun yn ystod yr absenoldeb.

(3Pan gyfyd absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r absenoldeb cyn pen wythnos i'r argyfwng ddigwydd gan bennu'r materion ym mharagraff (2)(a) i (ch).

(4Os bydd —

(a)darparwr cofrestredig sy'n rheoli'r cynllun; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r cynllun am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, ac ni hysbyswyd swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r swyddfa honno yn ysgrifenedig ar unwaith gan bennu'r materion ym mharagraff (2)(a) i (ch).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw'r darparwr cofrestredig neu (yn ôl y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn ôl i'r gwaith dim hwyrach na saith niwrnod ar ôl y dyddiad dod yn ôl.

Hysbysu newidiadau

30.  Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny —

(a)os yw person heblaw'r person cofrestredig yn darparu neu'n rheoli, neu'n bwriadu darparu neu reoli, y cynllun;

(b)os yw person yn peidio â darparu neu reoli'r cynllun;

(c)os newidir neu os bwriedir newid enw neu gyfeiriad prif swyddfa'r cynllun;

(ch)pan fydd y darparwr cofrestredig yn gorff nad yw'n awdurdod lleol —

(i)os oes newid, neu os bwriedir bod newid, o ran cyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg y corff;

(ii)os oes newid, neu os bwriedir bod newid yn hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol;

(iii)os oes newid, neu os bwriedir bod newid ym mherchenogaeth y corff;

(d)pan fydd y darparwr cofrestredig yn unigolyn, os bydd ymddiriedolwr mewn methdaliad ar gyfer yr unigolyn yn cael ei benodi, neu'n debygol o gael ei benodi, neu os gwneir, neu os bwriedir gwneud, compównd neu drefniant gyda chredydwyr yr unigolyn;

(dd)pan fydd y darparwr cofrestredig yn gwmni, os bydd derbynnydd, rheolwr, diddymwr neu ddiddymwr darpariaethol yn cael ei benodi neu'n debygol o gael ei benodi;

(e)pan fydd y darparwr cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys darparu cynllun, os bydd derbynnydd neu reolwr yn cael ei benodi, neu'n debygol o gael ei benodi ar gyfer y bartneriaeth.

Penodi diddymwyr etc.

31.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith am y penodiad hwnnw gan nodi'r rhesymau drosto;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawnamser o ddydd i ddydd o'r cynllun os na fydd rheolwr; ac

(c)cyn pen 28 o ddiwrnodau i'r penodiad, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am y dull y bwriedir i'r cynllun gael ei weithredu yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodwyd yn —

(a)derbynnydd neu reolwr eiddo cwmni sy'n ddarparwr cofrestredig cynllun;

(b)diddymwr neu ddiddymwr darpariaethol cwmni sy'n ddarparwr cofrestredig cynllun;

(c)derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys darparu cynllun;

(ch)ymddiriedolwr mewn methdaliad darparwr cofrestredig cynllun.

RHAN V —AMRYWIOL

Tramgwyddau

32.—(1Tramgwydd yw mynd yn groes i reoliadau 4 i 31 neu fethu â chydymffurfio â hwy.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nid yw bellach, yn berson cofrestredig o ran cynllun o ran methiant i gydymffurfio â rheoliad 20 (cofnodion) ar ôl iddo beidio â bod yn berson cofrestredig, ac at y diben hwn rhaid deall cyfeiriadau at y person cofrestredig yn y rheoliad hwnnw fel petaent yn cynnwys person o'r math hwnnw.

Pennu swyddfeydd priodol

33.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â phrif swyddfa cynllun sydd wed'i lleoli mewn rhan benodol o Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

34.—(1Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(3) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y diffiniad o “the Act”, ychwaneger ar y diwedd —

or that Act as applied by the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004(4);

(b)yn y lle priodol, mewnosoder —

“adult placement scheme” has the same meaning as in the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004;

(c)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly”, ar ôl paragraff (h) mewnosoder —

(i)in relation to an adult placement scheme —

(i)if an office has been specified under regulation 33 of the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004 for the area in which the principal office of the scheme is situated, that office;

(ii)in any other case, any office of the National Assembly.;

(ch)yn y diffiniad o “statement of purpose” mewnosoder—

(j)in relation to an adult placement scheme, the written statement to be compiled in accordance with regulation 4 of the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004;.

(3Yn rheoliad 2(3), ychwaneger —

(d)to an agency includes a reference to an adult placement scheme and accordingly in relation to a scheme—

(i)reference to a registered provider carrying on an agency includes reference to a registered provider providing an adult placement scheme;

(ii)reference to a registered manager managing an agency includes reference to a registered manager managing an adult placement scheme;

(iii)reference to a registered person in respect of an agency includes a registered person in respect of an adult placement scheme;

(iv)reference to a responsible individual includes an individual who is a director, manager, secretary or other officer of an organisation and is responsible for the management of an adult placement scheme; and

(v)reference to a service user includes reference to an adult who is placed under an adult placement scheme..

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002

35.—(1Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(5) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwaneger ar y diwedd—

16.  Annual Fee — adult placement schemes.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “the Act”, ychwaneger ar y diwedd —

or that Act as applied by the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004”(6);

(b)yn y lle priodol, mewnosoder —

“adult placement scheme” has the same meaning as in the Adult Placement Schemes (Wales) Regulations 2004;

(4Yn rheoliad 2(3), ychwaneger —

(d)to an agency includes a reference to an adult placement scheme and accordingly in relation to a scheme —

(i)reference to a registered provider carrying on an agency includes reference to a registered provider providing an adult placement scheme; a

(ii)reference to a registered manager managing an agency includes reference to a registered manager managing an adult placement scheme; a

(iii)reference to a service user includes reference to an adult who is placed under an adult placement scheme..

(5Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (3D) mewnosoder —

(3E) In the case of an application by a person seeking to be registered as a person who provides an adult placement scheme, the registration fee is £1,100.

(3F) In the case of an application by a person seeking to be registered as a person who manages an adult placement scheme, the registration fee is £300..

(6Ar ôl rheoliad 15 (Ffi flynyddol — asiantaethau gofal cartref), mewnosoder y rheoliad canlynol —

Annual fee — adult placement schemes

16.(1) The annual fee in respect of an adult placement scheme is £750.

(2) The annual fee in respect of an adult placement scheme is to be payable by the registered provider on the first and subsequent anniversaries of the date on which his or her certificate of registration is issued..

Darpariaethau trosiannol

36.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn gael eu cofrestru o dan y Ddeddf ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 1 Awst 2004.

(2Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff person a oedd yn union cyn 1 Awst 2004 yn darparu neu'n rheoli cynllun lleoli oedolion barhau i ddarparu neu reoli'r cynllun heb gael ei gofrestru o dan y Ddeddf—

(a)yn ystod y 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a

(b)os gwneir cais am gael cofrestru o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “gwaredu yn derfynol” yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu'r rhoddir y gorau iddo.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

37.—(1Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(7) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 3(1), ychwaneger —

(f)os yw'r holl bersonau sy'n cael eu lletya yn y cartref yn destun cytundebau lleoli oedolion sy'n cydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(8), neu os bydd rheoliadau a wnaed yn Lloegr yn gymwys i gytundeb lleoli oedolion, â darpariaethau'r rheoliadau hynny..

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004

38.—(1Yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(9), ychwaneger —

(ch)i'r graddau y mae'n trefnu ar gyfer gofal personol personau sy'n cael eu lletya o dan gytundebau lleoli oedolion sy'n cydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(10), neu os bydd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr yn gymwys i gytundeb lleoli oedolion, â darpariaethau'r rheoliadau hynny..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources