- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'u diwygiwyd eisoes). Mae Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1334/2003 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion mewn porthiant ac sy'n perthyn i'r grwp elfennau hybrin (OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.11), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1801/2003 sy'n awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ficro-organedd penodol mewn porthiant (OJ Rhif L264, 15.10.2003, t.16), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1847/2003 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn ac awdurdodi parhaol o ychwanegyn a awdurdodwyd eisoes mewn porthiant (OJ Rhif L269, 21.10.2003, t.3) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2112/2003 sy'n cywiro Rheoliadau (EC) Rhif 1334/2003 sy'n diwygio'r amodau ar gyfer awdurdodi nifer o ychwanegion mewn porthiant sy'n perthyn i'r grwp elfennau hybrin (OJ Rhif L417, 2.12.2003, t.22) (rheoliad 2(2) a (3)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn porthiant (OJ Rhif L151, 19.6.2003, t.38) drwy ddiwygio Atodlen 7 i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 er mwyn pennu lefelau newydd uchaf ar gyfer deucosin mewn porthiant (rheoliad 2(4) ac Atodlen 1).
4. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC sy'n awdurdodi ester isopropyl o'r cydwedd hydrocsyleiddiedig o fethionin (OJ Rhif L295, 13.11.2003, t.83) drwy ddiwygio Atodlen 8 i Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 er mwyn diwygio'r amodau gwerthu neu feddu er mwyn gwerthu cydweddau o fethionin at ddefnydd fel porthiant neu ffynhonnell protein mewn porthiant (rheoliad 2(5) ac Atodlen 2).
5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (rheoliad 3) a diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 4 i 11).
6. Lluniwyd Arfarniad Rheoliadol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i rhoddwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/104/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: