Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 3(1) a 4

ATODLEN 1PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT

Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r canlynol —

(a)person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn adsefydlu cymunedol yn ystyr adran 41 o Ddeddf 2000 neu orchymyn cosb gymunedol ac adsefydlu yn ystyr adran 51 o'r Ddeddf honno;

(b)person sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 52 o Ddeddf 2000;

(c)person a gafodd ei ryddhau ar drwydded o dan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991(1)) yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol;

(ch)person a gafodd ei leoli o dan warcheidiaeth yn unol â'r canlynol—

(i)cais a wnaed yn unol ag adran 7 o Ddeddf 1983; neu

(ii)gorchymyn a wnaed o dan adran 37 o'r Ddeddf honno;

(d)person sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1983;

(dd)person sy'n destun ôl-ofal o dan oruchwyliaeth yn ystyr adran 25A o Ddeddf 1983(2);

(e)person y mae amod a osodwyd mewn perthynas ag ef mewn grym yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) o Ddeddf 1983 (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3) o'r Ddeddf honno);

(f)person y mae gorchymyn goruchwylio a thriniaeth mewn grym mewn perthynas ag ef yn ystyr Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anffitrwydd i Bledio) 1991(3);

(ff)person sy'n glaf ac yn destun ôl-ofal o dan orchymyn gofal cymunedol o dan adran 35A o Ddeddf 1984(4);

(g)person sy'n glaf sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd o dan adran 27 o Ddeddf 1984;

(ng)person sy'n destun gorchymyn gwarcheidiaeth yn ystyr adran 57 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000(5)) oherwydd, neu am resymau sy'n cynnwys, analluedd drwy anhwylder meddwl;

(h)person sy'n glaf cyfyngedig yn ystyr adran 63(1) o Ddeddf 1984 y rhoddwyd rhyddhad amodol iddo o dan adran 64 neu 68 o'r Ddeddf honno;

(i)person sy'n destun gorchymyn llys o dan adran 57(2)(a), (b), (c) neu (d), 58 neu 59 o Ddeddf 1995;

(j)person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn prawf yn ystyr adrannau 228 i 230 o Ddeddf 1995, neu sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 234B o'r Ddeddf honno(6);

(l)person a ryddhawyd ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carcharau (yr Alban) 1989(7)) neu o dan adran 1 o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (yr Alban) 1993(8) a'i fod yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Rheoliad 12

ATODLEN 2DIWYGIADAU CANLYNIADOL

1.  Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl “Community Care (Direct Payments) Act 1996”, mewnosoder “or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)” —

1. Teitl y deddfiad2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Asesu Adnoddau) 1989(9)

Atodlen 2, paragraff 6(2)

Atodlen 3, paragraff 8(b)

Rheoliadau Cyngor a Chymorth Cyfreithiol 1989(10)Atodlen 2, paragraff 9A(2)
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Troseddol ac Achosion Gofal (Cyffredinol) 1989(11)Atodlen 3, paragraff 6(2)
Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000(12))Rheoliadau 19(b) a 33(b)
Rheoliadau Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cyffredinol) (Rhif 2) 2001(13)Atodlen 1, paragraff 8(1)(d)

2.  Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl “Social Work (Scotland) Act 1968”, rhodder “or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)”—

1. Teitl y deddfiad2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio
Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(14)Atodlen 9, paragraff 58
Rheoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987(15)Atodlen 4, paragraff 67
Rheoliadau Credyd Teulu (Cyffredinol) 1987(16)Atodlen 2, paragraff 57
Rheoliadau Lwfans Gweithio i'r Anabl (Cyffredinol) 1991(17))Atodlen 3, paragraff 55
Rheoliadau budd-dal Treth (Cyffredinol) 1992(18)Atodlen 4, paragraff 62
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992(19))Atodlen 2, paragraff 48C
Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996(20)Atodlen 7, paragraff 56
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(21)Atodlen 3, paragraff 59
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(22))Atodlen, paragraff 43A

3.  Yn rheoliad 19 o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(23) yng nghofnod 14 yn nhabl 6, ar ôl “Health and Personal Social Services (Direct Payments) (Northern Ireland) Order”, ychwaneger “or regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments).”.

(2)

Mewnosodwyd adran 25A gan adran 1(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) (“Deddf 1995”).

(4)

Mewnosodwyd adran 35A gan adran 4 o Ddeddf 1995.

(6)

Mewnosodwyd adran 234B gan adran 90 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37).

(10)

O.S. 1989/338; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/778, 1996/2309, 1997/753; gweler hefyd O.S. 2000/774, erthygl 5.

(11)

O.S. 1989/340; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/790 ac 1997/751; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.

(12)

O.S. 1989/344; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/789 ac 1997/752; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.

(14)

O.S. 1987/1967; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.

(15)

O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2863.

(16)

O.S. 1987/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.

(17)

O.S. 1991/2887; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.

(18)

O.S. 1992/1814; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.

(19)

O.S. 1992/1815; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/3196. Dirymwyd O.S. 1992/1815 gydag arbedion gan O.S. 2001/155.

(20)

O.S. 1996/207; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.

(21)

O.S. 1996/2890; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/808.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources