Search Legislation

Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

2.—(1Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002(1) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “cymhwyster Rheoliadau 1999”, a mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol —

ystyr “cymhwyster athrawon ysgol” (“school teachers' qualification”) yw cymhwyster sy'n rhoi i bersonau statws athrawon cymwysedig o fewn ystyr rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(2);.

(3Yn rheoliad 3 yn lle is-baragraff (a) ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) rhodder yr is-baragraff canlynol —

(a)cymhwyster athrawon ysgol;.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 yn lle'r geiriau “y mae'n ofynnol” i'r diwedd rhodder y geiriau “y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 134(1) o Ddeddf Addysg 2002(4)”.

(3Yn rheoliad 4(4) yn lle paragraff (b) rhodder y canlynol —

(b)ei bod yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 134(1) o Ddeddf Addysg 2002,.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

4.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(5) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gofrestredig” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person y rhoddwyd iddo awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(6)) cyn 1 Medi 2004;;

(b)yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwys” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy'n bodloni gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 132 o Ddeddf 2002(7);

(c)yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes raddedig” rhodder y diffiniad canlynol —

ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person y rhoddwyd iddo awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(8) cyn 1 Medi 2004;; ac

(ch)mewnosoder ar ôl y diffiniad o “y Cyngor” y diffiniad canlynol —

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(9);.

(3Yn rheoliad 6(2)(a)(i), mewnosoder ar ôl y geiriau “athro neu athrawes gofrestredig” y geiriau “neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth”.

(4Yn y fersiwn Gymraeg o reoliad 8(1) a (2), rhodder y geiriau “athro neu athrawes gymwysedig” yn lle'r geiriau “athro neu athrawes gymwys”.

(5Yn Atodlen 1 —

(a)yn lle paragraff 17 rhodder y paragraff canlynol —

17.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddynt.;

(b)yn lle paragraff 18 rhodder y paragraff canlynol —

18.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 13 o Atodlen 2 iddynt.;

(c)ym mharagraff 20 rhodder yn lle is-baragraff (c) y canlynol —

(c)sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddynt; a.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources