RHAN 1Aelodaeth

Datgymhwyso rhag penodi

5.  Yn ddarostyngedig i reoliad 6, datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig —

(a)os cafodd y person hwnnw, yn y pum mlynedd flaenorol, ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig o dramgwydd neu os collfarnwyd ef yn rhywle arall o dramgwydd a fyddai, pe cyflawnid ef yn unrhyw ran o'r y Deyrnas Unedig yn dramgwydd troseddol yn y rhan honno, ac yn y naill achos neu'r llall a gafodd ei ddedfrydu i gyfnod o garchar (os cafodd ei atal ai peidio) am gyfnod dim llai na thri mis heb gael y dewis o ddirwy, ac na chafodd ei ddiddymu ar apêl;

(b)os cafodd y person hwnnw ei farnu'n fethdalwr neu os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c)os cafodd y person hwnnw ei ddiswyddo (heb gael ei ailsefydlu), oherwydd camymddwyn o unrhyw gyflogaeth am dâl ac na fu'r diswyddiad hwnnw yn destun canfyddiad o ddiswyddiad annheg neu gamddiswyddiad gan dribiwnlys neu lys;

(ch)os cafodd y person hwnnw ei aelodaeth fel cadeirydd, is-gadeirydd, cyfarwyddwr neu aelod o gorff gwasanaeth iechyd, ei derfynu am reswm heblaw anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff, neu am i gyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi ddod i ben;

(d)os cafodd y person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol o dan adrannau 17(2)(b) neu 18(7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(1) (aelodau o awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am dynnu neu awdurdodi gwariant anghyfreithlon neu a achosodd golled neu ddiffyg drwy gamymddygiad bwriadol);

(dd)os cafodd y person hwnnw ei symud—

(i)o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusen neu'r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu'r elusen yr oedd y person hwnnw'n gyfrifol amdani neu yr oedd yn gyfrannog ohoni, neu y cyfrannodd y person hwnnw iddi neu a hwylusodd er ei mwyn, neu

(ii)o dan adran 7 o Ddeddf Diwygio'r Gyfraith (Darpariaethau Amrywiol) (yr Alban) 1990(2) (pwerau Llys y Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau) rhag ymwneud â rheoli neu lywio unrhyw gorff.